Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00375
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
15 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
29 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn barhaol yw hon.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddatblygu rhaglen Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.  Dyma adeg hollbwysig wrth i ni groesawu ein trydedd garfan o fyfyrwyr i'n cymuned ddysgu. Mae'r rhaglen yn darparu amgylchedd arloesol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil ym maes Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ac rydym bellach am benodi aelod staff newydd i'n tîm deinamig Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau sy'n ymarfer ac sydd â phrofiad sylweddol o'r rôl "sgryb". Mae'r rhaglen yn gofyn am unigolyn sy'n gallu gwella profiad dysgu ein myfyrwyr yn sylweddol drwy lunio, cyflwyno a datblygu cwricwlwm arloesol yn gyson. Bydd gennych y cyfle i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth a mentora dysgwyr, wrth i chi ddatblygu eich ymchwil a'ch sgiliau addysgu eich hun.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y canlynol:

  • Gradd/diploma mewn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau, profiad proffesiynol perthnasol o rôl "sgryb" a rhaid eich bod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Profiad o addysgu'n effeithiol mewn lleoliad clinigol neu ym myd Addysg Uwch.
  • Gwybodaeth am ymarfer a damcaniaeth gyfoes yr Adran Lawdriniaethau.
  • Ymrwymiad i DPP ac arloesedd yn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau.
  • Tystiolaeth o gylchredeg canfyddiadau ymchwil drwy gyfryngau ysgrifenedig, llafar neu gyfryngau priodol eraill, yn y sefydliad ac yn allanol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ymrwymedig i wella amrywiaeth ein tîm a'n Prifysgol. 

Os ydych chi'n frwdfrydig am Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ac rydych chi am fod yn rhan o dîm uchelgeisiol, anfonwch eich CV, eich llythyr eglurhaol a'ch datganiad atom. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr