Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00379
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
5 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
4 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Grŵp Marchnata a Thwristiaeth yn yr Ysgol yn chwilio am unigolyn ymrwymedig, brwdfrydig ac egnïol sydd â'r potensial i wneud cyfraniadau sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes marchnata at waith un neu fwy o ganolfannau ymchwil yr Ysgol Reolaeth. Bydd profiad academaidd a phroffesiynol helaeth o ddamcaniaeth ac ymarfer marchnata yn hanfodol er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol at ddatblygu, cyflwyno ac ehangu ein rhaglenni BSc ac MSc mewn Marchnata. Mae diddordeb ac arbenigedd mewn marchnata digidol yn ofynnol.

Mae'r Ysgol Reolaeth ymysg y 50 ysgol fusnes orau yn y Deyrnas Unedig am Ragoriaeth Ymchwil. Yn 2015, symudodd yr Ysgol i Gampws y Bae y Brifysgol. Yn ogystal â darparu cyfleusterau addysgu ac ymchwil i fwy na 2,000 o fyfyrwyr a 150 o aelodau staff, mae Campws y Bae yn ganolbwynt cydweithredu â byd diwydiant, gan gynnig cyfleusterau i sefydliadau megis Comisiwn Bevan ac AgorIP.

Wrth gynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid, Rheoli Busnes a Marchnata (Strategol), a BSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, mae'r Ysgol wedi meithrin cysylltiadau â byd diwydiant a sefydliadau partner ym mhedwar ban byd. Mae pob cwrs israddedig yn cynnig opsiwn i fyfyrwyr dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu astudio dramor am flwyddyn mewn prifysgol bartner mewn gweledydd megis Awstralia, Denmarc, Hong Kong ac Unol Daleithiau America.

Ochr yn ochr ag addysgu, mae'r Ysgol hefyd yn gartref i ganolfannau ymchwil amrywiol, gan gynnwys y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i'r Economi Ymwelwyr (CVER); Dyfodol Digidol ar gyfer Busnes a Chymdeithas Cynaliadwy; Canolfan Cyllid Empirig Hawkes; Pobl a Sefydliadau; iLab Abertawe; a Chanolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru (WELMERC)

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y byd ymchwil a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylai eich cais gynnwys: tystiolaeth o'r cymhwyster uchaf a gyflawnwyd ym marchnata; agenda ymchwil fanwl dros 5 mlynedd; a, datganiad o brofiad addysgu ac athroniaeth.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Recruitment_SoM_WELSH_15.5.pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr