Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00391
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
27 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm ymchwil iechyd meddwl ffyniannus gyda thros £40m mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf a phortffolio o brosiectau.  Arweinir y tîm gan yr Athro Ann John ac mae'n canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Yr Athro Ann John yw Cadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio i Lywodraeth Cymru, mae'n aelod o SAGE ac yn Ymddiriedolwr y Samariaid ac yn Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm i reoli prosiect DATAMIND, sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid am 5 mlynedd arall i barhau i weithio tuag at ei weledigaeth hirdymor i drawsnewid ymchwil i iechyd meddwl ar draws y pedair cenedl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â Rheolwyr Prosiect partneriaid a'r Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu a'r Gweinyddwr Prosiect i sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion o fewn yr amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoli prosiectau aml-bartner a'u cyflwyno'n llwyddiannus, yn ddelfrydol ym maes ymchwil Iechyd Meddwl, a bydd ystod eang o dasgau rheoli prosiectau, gan gynnwys cydweithio'n agos â rhanddeiliaid allanol ar draws y pedair cenedl, yr elusennau MQ Mental Health Research a McPin Foundation a gwyddonwyr data.  

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylai eich llythyr eglurhaol gynnwys tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd a rhestr o gyhoeddiadau (os yw'n berthnasol)

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd - Gwasanaethau Proffesiynol Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr