- Rhif y Swydd
- SU00397
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £45,585 i £54,395 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 18 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 1 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Chris Jones c.jones@swansea.ac.uk
- Simon Thompson simon@chi.swan.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae SeRP (Platfform Ymchwil Ddiogel) yn set dechnoleg a ddatblygwyd gan y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Cafodd ei sefydlu'n wreiddiol fel y platfform technoleg cefnogol ar gyfer Banc Data SAIL sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, ond ehangodd yr isadeiledd yn gyflym iawn i gynnwys sylfaen cleientiaid fawr o'r DU ac yn fyd-eang.
Mae SeRP bellach yn blatfform technoleg sydd wedi'i gydnabod a'i achredu yn rhyngwladol. Mae tîm hynod fedrus ac arbenigol SeRP hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth technegol, llywodraethu a busnes i'r gymuned ymchwil ar sail ymgynghoriaeth i gynorthwyo wrth storio a rhannu setiau data ymchwil yn ddiogel er mwyn cefnogi gweithgarwch ymchwil. Mae gan SeRP bortffolio o brosiectau ar hyn o bryd sy'n werth >£50 miliwn.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl arweiniol wrth gynnal y saernïaeth dechnegol bresennol a datblygu a gweithredu atebion newydd ar sail caledwedd a rhwydwaith. Mae SeRP yn dibynnu'n fawr ar awtomatiaeth, felly byddai gwybodaeth am awtomatiaeth neu brofiad o'i defnyddio yn fantais sylweddol. Bydd cyfleoedd achlysurol am deithio tramor i gynorthwyo cleientiaid rhyngwladol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi tystiolaeth yn eich CV a'ch llythyr eglurhaol o ran sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol.