Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00399
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Digidol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
29 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y Dadansoddwr Desg Wasanaeth TG Llinell Gyntaf yn gweithio gyda thîm y Ddesg Wasanaeth, adran ehangach y Gwasanaethau Digidol ac mewn partneriaeth ag adrannau Gwasanaeth Proffesiynol eraill i ddarparu cymorth TG o ansawdd uchel i'n myfyrwyr a'n staff yn y swyddogaethau canlynol:

  • Gwasanaeth Cwsmeriaid - darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i'n holl fyfyrwyr a staff sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Digidol ar ein dau gampws, gan gynnwys mewn digwyddiadau a gweithgareddau busnes, er enghraifft Clirio, Cofrestru, Cynadleddau a Diwrnodau Agored.
  • Rheoli Problemau a Bodloni Ceisiadau - dilyn y prosesau rheoli problemau a bodloni ceisiadau, yn unol ag amcanion y Ddesg Wasanaeth, i ddatrys cynifer o broblemau ac ymholiadau â phosib (gan ddefnyddio'r holl ffynonellau data priodol, megis problemau neu geisiadau hanesyddol, sylfeini gwybodaeth, profiad a gwybodaeth tîm y Ddesg Wasanaeth TG). Uwchgyfeirio'n briodol unrhyw broblemau neu geisiadau nad oes modd eu datrys neu eu bodloni o fewn cyfnod amser priodol. Cydweithredu â dadansoddwyr eraill a'u cefnogi ar dasgau sy'n cael eu huwchgyfeirio.
  • Gwella Gwasanaethau'n Barhaus - lle nad oes prosesau'n bodoli, arwain wrth ddatblygu rhai newydd a chyfrannu at y gwaith hwn, a chreu, adolygu a chynnal sylfeini gwybodaeth er mwyn cynorthwyo wrth ddatrys problemau neu fodloni ceisiadau ar sail barhaus.

 

Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n frwdfrydig am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, sydd â phrofiad o TG mewn rôl debyg ac sy'n chwilio am swydd dadansoddwr llinell gyntaf uwch.

Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol, â llygad craff am fanylion a gallu datrys problemau.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff TG yn y Gwasanaethau Digidol, felly bydd y gallu i ddatblygu perthnasoedd gweithio effeithiol a meithrin dealltwriaeth drylwyr o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.

Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr