- Rhif y Swydd
- SU00400
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £22,681 i £24,533 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 19 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 29 Gorff 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rhian Clarke r.g.clarke@swansea.ac.uk
- Rhodri Major r.t.m.major@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Bydd y Dadansoddwr Desg Gwasanaeth TG Llinell Gyntaf yn gweithio yn y tîm Desg Wasanaeth, yr adran Gwasanaethau Digidol ehangach ac mewn partneriaeth ag adrannau Gwasanaeth Proffesiynol eraill i gyflwyno cymorth TG o safon i'n myfyrwyr a'n staff yn y swyddogaethau canlynol:
- Gwasanaeth Cwsmeriaid - darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl staff a myfyrwyr sy'n cysylltu â'r Gwasanaethau Digidol ar draws y ddau gampws, gan gynnwys mewn digwyddiadau a gweithgareddau busnes (ond heb fod yn gyfyngedig i) Glirio, Cofrestru, Cynadleddau a Diwrnodau Agored
- Rheoli Digwyddiadau a Datrys Ceisiadau - Dilyn y prosesau rheoli digwyddiadau a datrys ceisiadau, yn unol ag amcanion y Ddesg Wasanaeth TG, i ddatrys cynifer o ddigwyddiadau a cheisiadau sy'n cael eu huwchgyfeirio gan y timau llinell gyntaf â phosib (gan ddefnyddio'r holl ffynonellau data priodol megis digwyddiadau neu geisiadau hanesyddol, cronfeydd gwybodaeth, profiad a gwybodaeth yn nhîm y Ddesg Wasanaeth). Uwchgyfeirio'n briodol unrhyw ddigwyddiadau neu geisiadau na ellir eu datrys yn unol ag amserlen briodol.
- Gwella Gwasanaeth yn Barhaus - cyfrannu at ddatblygu prosesau pan na fydd dim yn bodoli, a chreu, adolygu a chynnal sylfeini gwybodaeth, i gynorthwyo gyda datrys digwyddiadau neu geisiadau'n barhaus.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n dwlu cyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chanddynt ddiddordeb brwd neu ychydig o brofiad mewn TG.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol, meddu ar lygad craff am fanylion a gallu datrys problemau.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff TG o'r Gwasanaethau Digidol, felly bydd y gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a meithrin dealltwriaeth drylwyr o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Mae gofyniad Lefel 3 Cymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon h.y. Gallu cynnal sgwrs rugl yn Gymraeg ar fater sy'n ymwneud â'r gwaith. Gallu ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.