Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00402
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
28 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
David Bembo d.g.bembo@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn recriwtio Uwch-gynorthwy-ydd Gweinyddol amser llawn am gyfnod penodol i gefnogi'r Prif Swyddog Ymchwil a Menter (CREO) ac aelodau uwch-dîm arweinyddiaeth REIS gydag amrywiaeth o amcanion gweithredol a threfniadol.

Mae REIS yn cefnogi pob agwedd ar weithgareddau ymchwil ac arloesi'r Brifysgol, o gyflwyno ceisiadau am grantiau ymchwil allanol a chyllid am gontractau i greu effaith fuddiol a gwerth masnachol o'n portffolio ymchwil ar draws y tair cyfadran. Ar hyn o bryd, mae'r Adran mewn lleoliad canolog yn adeilad Talbot ar Gampws Parc Singleton (lle bydd y swydd hon) yn ogystal â thri hyb sydd yn y cyfadrannau ar Gampws Parc Singleton a'r Bae.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad gweinyddol rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu ar bob lefel gyda sgiliau trefnu rhagorol a gwybodaeth waith gadarn am becynnau Microsoft (Outlook, Word, Excel, Powerpoint, Teams a SharePoint) yn ogystal â phecynnau meddalwedd allweddol ac apiau eraill y Brifysgol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Zoom, Calamari, Canvas, Unit4 ERP/ABW. Mae profiad o weithio mewn rôl debyg yn hanfodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr