- Rhif y Swydd
- SU00438
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £28,759 i £32,332 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 31 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alice Davies a.t.davies@swansea.ac.uk
- Ben Hyde b.n.hyde@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Ymestyn yn Ehangach yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Digwyddiadau i drefnu a chyflwyno digwyddiadau ymgysylltu i ddisgyblion ysgolion sy'n dod o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau ymgysylltu STEM.
Mae tîm Ymestyn yn Ehangach am recriwtio Cydlynydd Digwyddiadau i gefnogi'r tîm i ddarparu ystod o ddigwyddiadau i fyfyrwyr o Flwyddyn 5 i Flwyddyn 11 ledled de-orllewin Cymru. Bydd y Cydlynydd Digwyddiadau'n ymuno â thîm sefydledig i gyflawni Strategaeth Ymestyn yn Ehangach y Brifysgol.
Nod Ymestyn yn Ehangach yw hwyluso pobl o gefndiroedd sydd â llai o gynrychiolaeth i fynd i Addysg Uwch. Arweinir y fenter hon, sy'n rhan o Fywyd Myfyrwyr, gan Brifysgol Abertawe ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, awdurdodau addysg lleol, ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau Addysg Bellach yn rhanbarth de-orllewin Cymru. Bydd y Cydlynydd Digwyddiadau'n gyfrifol am gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu sydd wedi'u llunio i godi ymwybyddiaeth, meithrin sgiliau a gwybodaeth am addysg uwch a chefnogi cyrhaeddiad ymhlith pobl ifanc benodol ar draws Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n bennaf â disgyblion ysgolion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 11, gan ganolbwyntio ar gyflwyno digwyddiadau ymgysylltu STEM ar y cyd â'n rhaglen ehangach.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad mewn rôl debyg, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i adlewyrchu gofynion y rôl.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau