- Rhif y Swydd
- SU00444
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,277 i £22,277 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Michelle Evans m.l.evans@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae dyletswyddau'n cynnwys dilyn cyfarwyddiadau ac arweiniad gan y myfyriwr i baratoi sbesimenau a deunyddiau yn y labordy a pharatoi samplau dan gyfarwyddyd at ddibenion profi a dadansoddi etc gan y myfyriwr; hôl a chario cyfarpar labordy y mae ei angen ar y myfyriwr; mesur hylifau i'r meintiau penodol a nodir gan y myfyriwr. Mae'r cymorth y mae myfyrwyr yn ei gael wedi'i ariannu gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) ac fe'i gweinyddir gan Brifysgol Abertawe.
Bydd y swydd yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau canlynol neu bob un ohonynt:
- Trefnu i gwrdd â'r myfyriwr (myfyrwyr) mewn lleoliad/labordy y cytunir arno i drafod trefniadau.
- Cynorthwyo'r myfyriwr wrth gynnal a gosod arbrofion dan gyfarwyddyd y myfyriwr mewn labordy.
- Sicrhau dilyn a glynu wrth brotocolau iechyd a diogelwch ar gyfer y labordy ar bob adeg.
- Rhoi digon o rybudd i'r myfyriwr (myfyrwyr) a'r Cydlynydd Cymorth Anabledd os na allwch chi ddod i sesiwn ymarferol (o leiaf un wythnos os yn bosib).
- Rhoi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd am unrhyw absenoldebau cynlluniedig ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
- Ymgysylltu ag aelodau eraill o dîm y Gweithwyr Cymorth i drefnu cynorthwy-ydd llanw addas a rhoi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd am y trefniadau a roddir ar waith.
- Gallu cysylltu â'r myfyrwyr rydych chi'n eu cynorthwyo a gweithio'n annibynnol.
- Trefnu eich dyddiadur eich hun i ddarparu cymaint o gymorth ag y gallwch chi ymrwymo iddo, wrth lynu at bolisïau oriau gwaith y Brifysgol a chyfyngiadau o ran Fisa.
- Gweithio ar bob adeg gan fodloni gofynion y GDPR a sicrhau bod data personol sensitif yn cael eu storio a'u trin yn briodol, gan ystyried ceisiadau gan y myfyriwr am gyfrinachedd wrth ymateb yn briodol i ddyletswydd gofal y sefydliad i bobl eraill.
- Cyflwyno taflenni amser gan ddefnyddio system Connect bob wythnos er mwyn i'r myfyriwr (myfyrwyr) eu cymeradwyo erbyn y dyddiad cau ar gyfer y gyflogres ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.
- Cysylltu â'r myfyriwr (myfyrwyr) os na fydd taflenni amser wedi cael eu cymeradwyo erbyn dyddiad cau'r gyflogres ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.
- Cynnal cyfrinachedd o ran y myfyriwr (myfyrwyr).
- Ymgysylltu â'r Cydlynydd Cymorth Anabledd o ran anghenion myfyrwyr unigol a sicrhau ei fod yn ymwybodol o bryderon.
- Darparu manylion cyswllt cyfoes os bydd y rhain yn newid ar unrhyw adeg.
- Adrodd i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd am unrhyw newidiadau i drefniadau cymorth myfyriwr y cytunwyd arnynt.
- RHAID i'r Cynorthwy-ydd Cymorth Labordy roi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd cyn cytuno i ddarparu cymorth ychwanegol i fyfyriwr.
- Cyfrannu'n llawn at bolisïau Galluogi Perfformiad ac Iaith Gymraeg y Brifysgol.
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol.
- Arwain wrth wella perfformiad iechyd a diogelwch yn barhaus drwy ddealltwriaeth gadarn o broffil risg a datblygu diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill y gellir eu disgwyl o fewn diffiniad y radd yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth y Coleg/Adran neu gynrychiolydd a enwebwyd.
- Sicrhau bod rheoli risg yn rhan annatod o unrhyw broses benderfynu, drwy sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi Rheoli Risg y Brifysgol.
- Gall fod angen tasgau penodol yn ogystal â'r rhai hynny a amlinellir uchod. Os bydd angen tasgau ychwanegol, bydd y Cydlynydd Cymorth Anabledd yn eich cynghori ynglŷn â hyn.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.