Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00451
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£34,507 i £34,507 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Medi 2024
Interview Dates
23 Medi 2024 - 24 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rôl Swyddog Diogelwch ac Ymateb Campws Prifysgol Abertawe yw gweithredu yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Diogelwch Gwasanaeth Diogelwch ac Ymateb Campws Prifysgol Abertawe i sicrhau darpariaeth gwasanaeth 24 awr eithriadol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n ymwneud â diogelwch a diogeledd pobl, adeiladau, eiddo ac amgylchedd y Brifysgol.

Mae Prifysgol Abertawe'n amgylchedd cymhleth, amlddiwylliannol a bywiog sy’n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o nifer o systemau a phrosesau. Dyma rôl sy'n anodd yn gorfforol, ac fel Swyddog Diogelwch ac Ymateb Campws, bydd eich dyletswyddau'n cynnwys patrolau o'r campws, rheoli achosion, rheoli digwyddiadau, rheoli traffig a pharcio, mynd ati’n rhagweithiol i atal troseddau, lleihau troseddau ac anhrefn, datrys gwrthdaro, dyletswyddau ymatebwr cyntaf i achosion, gan gynnwys argyfyngau meddygol, a chymorth cyntaf iechyd meddwl, ymchwiliad cychwynnol i achosion ac adrodd amdanynt, cadw tystiolaeth a monitro TCC.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am gynnal amgylchedd diogel ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, i ddarparu profiad cwsmeriaid rhagorol a chyflwyno darlun positif o'r Brifysgol i sefydliadau allanol a'u cynrychiolwyr.
Lleolir y swydd hon ar Gampws Singleton a Champws y Bae a safleoedd eraill y brifysgol neu i fodloni gofynion dros dro am wasanaethau diogelwch yn unol â gofynion gweithredol.

Bydd yn rhaid i chi weithio system sifftiau 12 awr sy'n gyfartaledd o 42 awr yr wythnos a bydd yn rhaid i chi weithio goramser ar gyfer digwyddiadau neu i gyflenwi yn ystod absenoldebau staff neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddiant. Fel rhan o'r Adran Ystadau a Gwasanaethau Campws, bydd gan ddeiliad y swydd ymagwedd hyblyg at ei waith yn cefnogi'r holl wasanaethau.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd ceisiadau trwy ffurflen gais ar-lein a CV.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn rhyngbersonol. Mae'n rhaid i Swyddog Diogelwch ac Ymateb Campws y Brifysgol allu delio â materion mewn modd sensitif a digyffro. Bydd angen i chi hefyd fod yn hyddysg mewn defnyddio cyfrifiaduron (darperir hyfforddiant) er mwyn cwblhau adroddiadau i safonau tystiolaeth dda ar y systemau adrodd Diogelwch. Mae angen am ddisgresiwn a chyfrinachedd, yn ogystal â'r angen i allu meithrin perthnasoedd gweithio effeithiol â chydweithwyr. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus ennill trwyddedau perthynas Awdurdod y Diwydiant Diogelwch o fewn amserlen gytunedig ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.
Cyflog: £34,507 y flwyddyn (pro rata os yw'n rhan-amser). Mae hyn yn cynnwys cyflog sylfaenol o £22,277, goramser yn ôl contract o £6,661 a lwfans gweithio sifftiau o £5,569, a buddion pensiwn NEST (Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol) ar gyfer staff newydd.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Cynhelir cyfweliadau ac asesiadau ar 23/09/2024, 24/09/2024 & 25/09/2024

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd- Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr