Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00466
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£28,759 i £32,332 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
28 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Rhagfyr 2025, yn gweithio ar sail amser llawn.

Mae Banc Data SAIL yn gyfleuster blaenllaw ar raddfa fyd-eang sy’n storio ac yn defnyddio data di-enw yn seiliedig ar bobl, mewn modd diogel a chadarn, ar gyfer ymchwil sy'n gwella iechyd, lles a gwasanaethau. Mae ei fanc data o ddata di-enw am boblogaeth Cymru wedi cael sylw rhyngwladol. Wedi'i gefnogi a'i gymeradwyo gan y Llywodraeth, mae Banc Data SAIL yn derbyn cyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae biliynau o gofnodion dienw sy'n seiliedig ar y person yn cael eu storio ym Manc Data SAIL, yn amodol ar fesurau diogelu a chymeradwyaeth; gellir cysylltu'r rhain er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil pwysig.

Er bod y data a gedwir gan SAIL eisoes yn ei wneud yn unigryw ac yn adnodd sy'n arwain y byd, mae gofynion y gymuned ymchwil i gynyddu ein storfa ddata yn parhau i dyfu a newid. Mae'n hanfodol bod SAIL yn parhau i ehangu ei storfa ddata i ddiwallu'r anghenion cynyddol a newidiol hyn.

Bydd gwaith y swydd hon gyda thîm Caffael Data SAIL yn hwyluso caffael data newydd, yn gweithio gyda darparwyr data presennol i geisio cymeradwyaeth berthnasol i ddefnyddio eu data a chynnal gwybodaeth gyfoes am asedau data SAIL.

Rhestrir diben y rôl a'r dyletswyddau cyffredinol isod (ceir rhestr lawn yn y Disgrifiad Swydd):

  1. Gweinyddu swyddogaethau caffael data o ran casglu a defnyddio data SAIL yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol, gyda chymorth gan y Swyddog Caffael Data.
  2. Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth sy'n ymwneud â setiau data'n gyfoes ac yn cael eu cadw, eu prosesu a'u dileu'n unol â gweithdrefnau gweithredu SAIL a gofynion cyfreithiol megis y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
  3. Gweinyddu agweddau ar broses caffael a darparu data SAIL yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol, gyda chymorth gan y Swyddog Caffael Data.
  4. Helpu gyda'r broses o gymeradwyo Achrediadau Ymchwil ar gyfer prosiectau sy'n dymuno cael mynediad at ddata SAIL (gan gynnwys ceisiadau newydd a cheisiadau i addasu), gan ddarparu arweiniad syml ar y broses neu drwy ymateb i ymholiadau gan ymgeiswyr pan fo angen.
  5. Darparu cymorth gweinyddol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a chymryd cofnodion.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi tystiolaeth yn eich CV a'ch llythyr eglurhaol o ran sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol.

Rhannu

Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd - Gwasanaethau Proffesiynol Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr