Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00468
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £38,205 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
22 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
2 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Sofia Consuegra s.consuegra@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae mecanweithiau pennu rhyw yn hynod amrywiol mewn fertebratau; gall y rhywiau fod ar wahân neu gyda'i gilydd yn yr un unigolyn (deurywiaid), gall rhyw gael ei bennu gan gromosomau, meistr-enynnau neu hyd yn oed yr amgylchedd. Pam y mae cymaint o amrywiaeth mewn proses sydd mor hanfodol i rywogaeth oroesi? Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i rôl mecanweithiau rheoleiddio nad ydynt yn rhai genetig (epigenetig) y mae'r amgylchedd yn dylanwadu arnynt. Yn benodol bydd yn ymchwilio i'w rôl yn esblygiad y broses o bennu rhyw gan ddibynnu ar dymheredd. Bydd yn profi'r ddamcaniaeth y gall newidiadau epigenetig ar hap a geir ar enynnau sy'n ymwneud â phennu rhyw barhau ar draws cenedlaethau pan fydd detholiad naturiol yn effeithio arnynt ac, yn y ffordd hon, esbonio amrywiaeth y llwybrau pennu rhyw a welir mewn fertebratau.

Mae prif dasgau penodol y swydd yn cynnwys:

  1. Cyfrannu at ddylunio'r arbrofion a datblygu'r cynllun arbrofol ar y cyd â'r Prif Ymchwilydd, y Cyd-ymchwilydd a chydweithredwyr.
  2. Cynnal dadansoddiadau Biowybodeg ac ystadegol ar y cyd â'r Prif Ymchwilydd.
  3. Hyfforddi/goruchwylio'r Cynorthwy-ydd Ymchwil mewn gwaith labordy a dadansoddi, ar y cyd â'r Prif Ymchwilydd a'r Cyd-ymchwilydd.
  4. Arwain y gwaith o ysgrifennu papurau ac adroddiadau am ganlyniadau'r prosiect yn ôl yr angen, ar y cyd â'r Prif Ymchwilydd, y Cyd-ymchwilydd a chydweithredwyr.
  5. Lledaenu/cyfleu canlyniadau'r prosiectau mewn cynadleddau academaidd, digwyddiadau cyhoeddus cyffredinol ac yn y cyfryngau cymdeithasol (lle bo'n berthnasol).

Trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod hynt y prosiect â'r Prif Ymchwilydd, y Cyd-ymchwilydd a chydweithredwyr

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr