Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00475
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
14 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Gyfrifiadureg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gwahodd ceisiadau gan unigolion uchelgeisiol a dawnus i ymuno â'n tîm academaidd fel Darlithydd. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes a photensial rhagorol mewn Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron gyda ffocws penodol ar Ddeallusrwydd Artiffisial.

Dyma swydd am gyfnod penodol o 4.5 blynedd sy'n cyd-fynd â Chymrodoriaeth yr EPSRC yr Athro Matt Jones ar AI rhyngweithiol. [1] Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu elwa o'r rhaglen anturus hon, a chyfrannu ati, i greu paradeim AI rhyngweithiol newydd. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod yn ymrwymedig i addysgu  arloesol, bod yn ystyriol o brofiad myfyrwyr, a gallu cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm modern a ategir gan ddysgu ymarferol yn y labordy a thrwy brosiectau.

Mae Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe yn uchel ei bri am addysgu ac ymchwil: Gosodwyd hi yn y 25ain safle yn y DU ac yn 1af yng Nghymru gan Ganllaw Prifysgolion The Guardian 2023. Rydym wrth ein boddau bod 90% o'n hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, a bod 100% o'n heffaith yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol, sy'n dangos ein bod yn adran sy'n ymroddedig i wreiddio effaith ar y byd go iawn ym mhopeth a wnawn. Mae'r Adran yn cynnal wyth grŵp ymchwil: Deallusrwydd Artiffisial; Seiberddiogelwch; Addysg, Hanes ac Athroniaeth; Rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron; Roboteg Ddeallus; Gwirio Rheilffyrdd; Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol; a Chyfrifiadura Gweledol. Rhestrwyd yr Adran Gyfrifiadureg rhwng 126 a 150 ymysg sefydliadau gorau’r byd yn Nhablau Prifysgolion y Byd Times Higher Education 2023 yn ôl Pwnc.  Mae'r adran yn y Ffowndri Gyfrifiadol, cyfleuster ymchwil o safon fyd-eang sy'n cynnwys labordai dynodedig ar gyfer astudio roboteg, AI, saernïo a defnyddioldeb.

[1] https://www.swansea.ac.uk/press-office/news-events/news/2024/02/professor-awarded-22m-to-explore-a-digital-future-for-all.php#:~:text=Professor%20Matt%20Jones%20of%20Swansea,and%20ambitious%20AI%20research%20agenda.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr