Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00476
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
16 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Ymchwil mewn Modelu Digidol Uwch yn seiliedig ar Dechnolegau Semantig yn y gadwyn gyflenwi dur am gyfnod penodol i alluogi dyfodol cynaliadwy a thrawsnewidiad i sero net.Bydd y swyddog ymchwil newydd yn ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Beckmann a'r Athro Giannetti ar Ddeallusrwydd Artiffisial Hybrid ar gyfer Diwydiant a Chymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â'r gymuned ymchwil modelu, data a deallusrwydd artiffisial ehangach (y pwynt cyswllt cyntaf fydd yr Athro Beckmann) a'r gymuned ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu ehangach (y pwyntiau cysywllt cyntaf fydd yr Athro Giannetti a'r Athro Pleydell-Pearce) yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal ymchwil ac arloesi dilys yn seiliedig ar dechnolegau semantig i alluogi galluoedd Diwydiant 4.0 wedi’u llywio gan wybodaeth ar gyfer gweithgynhyrchu dur sy'n bodloni gofynion cynaliadwyedd a thrawsnewidiad i sero net. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda chynorthwy-ydd ymchwil a benodwyd eisoes ar Dechnolegau Blockchain sydd wrthi’n archwilio'r defnydd o dechnoleg cyfriflyfr dosbarthedig yng nghyd-destun cadwyni cyflenwi dur, ymchwilwyr sy'n canolbwyntio ar ymagweddau a lywir gan ddata ac academyddion ac ymchwilwyr mewn prifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig sy'n cyfrannu at SUSTAIN (gweler isod).

Mae'r swydd hon yn rhan o Hyb Gweithgynhyrchu'r Dyfodol SUSTAIN a ariennir gan yr EPSRC (https://www.sustainsteel.ac.uk/). Mae SUSTAIN yn brosiect cydweithredol cyffrous a gynhelir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Warwig a Phrifysgol Sheffield, gan gydweithredu â diwydiant dur y DU. Bydd y prosiect hwn yn cysylltiedig â Hyb Arloesi Dur Digidol y DU SUSTAIN (https://www.sustainsteel.ac.uk/data-driven-innovation), gan gefnogi heriau sylweddol yn Hyb SUSTAIN megis ‘Cynhyrchu Haearn a Dur Heb Wastraff a Charbon Niwtral ’ a ‘Phrosesu Dur Clyfar’. Mae'r prosiect hefyd yn gysylltiedig â'r Ganolfan Ymchwil Materials Made Smarter fel rhan o Arloesi Made Smarter (https://www.madesmarter.uk/made-smarter-innovation/research-centres/), gan ymchwilio i gysyniad newydd Pasbortau Deunyddiau a'u defnydd o fewn cyd-destun SUSTAIN a Chanolfan Ymchwil Materials Made Smarter fel rhan o fodloni gofynion cynaliadwyedd a chyrraedd sero net. Felly, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n angerddol am gysylltu meysydd ffiseg / ymagweddau a lywir gan wybodaeth at fodelu gweithgynhyrchu dur drwy gydweithio ag ymchwilwyr a thimau eraill.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr