Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00483
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£22,681 i £24,533 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
29 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
13 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Fel rhan o'r tîm a arweinir gan yr Uwch-dechnegydd, bydd y rôl hon yn diwallu'r anghenion ac yn bodloni'r gofynion sy'n gysylltiedig â darparu adnodd technegol o'r radd flaenaf i amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir yn lleoliadau diwylliannol Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, yn y Neuadd Fawr ac ar gyfer prosiectau ar y campws ac oddi arno.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm a bydd yn defnyddio ei fenter ei hun i fodloni amserlenni llym mewn amgylchedd prysur a gwobrwyol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen lawn ac amrywiol o weithgarwch diwylliannol a masnachol.

Bydd y rôl yn gofyn i chi fewnosod a gweithredu cyfarpar sy'n gysylltiedig â lleoliad celfyddydol modern a sinema, felly mae angen i chi godi a chario cyfarpar yn rheolaidd.

Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn dathlu ei 40fed pen-blwydd rhwng mis Mehefin 2024 a mis Mehefin 2025 ac, ar y cyd â'r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, mae hi wedi magu enw da am gynnal rhaglen gyfoethog ac amrywiol o gelfyddydau perfformio (cerddoriaeth jazz a gwerin, dawns gyfoes a dawns y byd, drama) sinema a darlledu'n fyw. Rydym wedi sefydlu ein hunain fel rhan hanfodol o dirwedd ddiwylliannol Bae Abertawe.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda'r hwyr a thros y penwythnos ar sail rota ar draws campysau'r Brifysgol ynghyd â mewn lleoliadau amrywiol sy'n benodol i'r safleoedd drwy gydol y rhanbarth.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Rhannu

Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr