Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00484
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
6 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan 31 Awst 2025, amser llawn.

Rydym wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i gynnal prosiect ymchwil er mwyn ystyried sut i ddiwallu anghenion rhieni yn y DU sy'n bwydo eu babanod â fformiwla ac yn profi argyfwng ariannol. Bydd y prosiect yn gweithio gyda rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r rhai hynny sy'n gweithio mewn banciau bwyd a chymorth argyfwng i ddeall sut mae rhieni sy'n profi argyfwng ariannol yn cael mynediad at fformiwla ar hyn o bryd ac yn ei defnyddio ar gyfer eu baban. Bydd yn archwilio'r llwybrau gwahanol posib i ddarparu llaeth fformiwla i deuluoedd a beth bydd goblygiadau'r gwahanol lwybrau. Yn benodol, rydym eisiau archwilio'r arweiniad o ran Banciau Bwyd yn darparu fformiwla babanod i deuluoedd yn erbyn opsiynau megis dull arian yn gyntaf, arweiniad gan weithiwr iechyd proffesiynol, neu gynnydd yn y lwfans Cychwyn Iach.

Rydym yn chwilio am swyddog ymchwil sydd â diddordeb mewn bwydo babanod ac iechyd y teulu i ddarparu hyn. Bydd gennych gyfle i gefnogi'r prosiect mewn ystod o ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol gan gynnwys arolygon, ystadegau, cyfweld, a grwpiau ffocws. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm rhyngddisgyblaethol iechyd y cyhoedd, bydwreigiaeth ac ymweliadau iechyd, a'r tîm seicoleg ac yn dysgu ganddynt, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol, arbenigwyr bwydo babanod ac arbenigwyr Banc Bwyd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr