Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00486
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
23 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol yw hon tan fis Mawrth 2025.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i fyfyriwr graddedig dawnus yn y gwyddorau meddygol, mewn economeg neu ddisgyblaeth berthynol ddatblygu ei sgiliau syntheseiddio tystiolaeth i lywio prosesau penderfynu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol bach â ffocws, gan gefnogi uwch-ymchwilwyr ar amrywiaeth o brosiectau. Bydd ffocws penodol ar bobl sy'n byw gyda chanser a/neu sydd ag anghenion iechyd cymhleth eraill i gynllunio a datblygu strategaethau adolygu tystiolaeth, cynnal ymchwiliadau llenyddiaeth a llunio deunyddiau clir i gyfleu'r canlyniadau er mwyn llywio ymchwil a phenderfynu ym maes economeg iechyd.

Byddwch yn cydweithio â'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe ac â grwpiau ymchwil mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i greu allbynnau o safon sy'n cael effaith yn y byd go iawn. Fel rhan o ddisgwyliadau cyffredinol y swydd hon, byddwch yn cefnogi cyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol o ansawdd uchel. Bydd angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog arnoch gan y byddwch yn gweithio gyda phobl o gefndiroedd a sefydliadau amrywiol, gan gynnwys cydweithredwyr sy'n gleifion, yn ofalwyr ac yn aelodau'r cyhoedd. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n awyddus i wneud yn fawr o'r cyfle hwn yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, sy’n ganolfan ragoriaeth hirsefydlog a chydnabyddedig ym maes economeg iechyd yn y DU.  Byddwch yn rhan o Economeg Iechyd a Gofal Cymru sy'n grŵp Cymru gyfan o arbenigedd Economeg Iechyd a Gofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Disgwylir i chi gyfranogi'n llawn yn ei weithgareddau, i hyrwyddo ei waith a chyfrannu at gymuned fywiog o ymchwilwyr economeg iechyd ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor. Bydd cyfle i chi ddatblygu eich profiad a'ch proffil ym maes ymchwil tystiolaeth gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â hyfforddiant addas, cynllun datblygu personol a nodi cyfleoedd i ddysgu'n barhaus.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Yn eich llythyr eglurhaol, darparwch ddatganiad hyd at 300 o eiriau am sut byddai'r swydd hon yn chwarae rôl yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr