Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00493
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
17 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Cathy Thornton c.a.thornton@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Medi 2025, amser llawn.

Mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe sydd â'r sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol. Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn darparu ymagwedd ryngddisgyblaethol, gan addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n cydweithredu â'r GIG, busnesau a'r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored ac mae wedi ei sefydlu ei hun fel lle o'r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi.

Gwahoddir ceisiadau am dechnegydd labordy ymchwil i ymuno â'r grŵp imiwnoleg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ymysg y 5 uchaf am ansawdd ymchwil (REF2021) ac yn rheolaidd ymysg y 5 ysgol feddygaeth orau yn y DU mewn tablau cynghrair. Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi meddygon a gwyddonwyr bywyd y dyfodol, gan gynnig ymagwedd ryngddisgyblaethol at feddygaeth drosiadol. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gweithgareddau ymchwil sy'n rhan o gynllun cyllido NERC 'Strategaethau Aer Glân i'r Dyfodol', drwy'r prosiect Cysylltu senarios defnyddio amgylchedd mewn beichiogrwydd/babandod a'r cysylltiad â deunyddiau yn yr awyr â chanlyniadau i iechyd plant (RESPIRE). Bydd yn ymuno â grŵp ymchwil bywiog sy'n ymchwilio i'r berthynas rhwng cysylltiadau menywod beichiog â llygredd aer a rhaglennu datblygiadau organau a chlefydau diweddarach yn ystod plentyndod. Bydd yn cefnogi'r agenda ymchwil hon ac yn gwella gallu ymchwil y grŵp imiwnoleg ehangach ym Mhrifysgol Abertawe, a hynny'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Bydd y technegydd labordy ymchwil yn cefnogi trin ac yn dadansoddi samplau biolegol ar gyfer prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome sy'n astudio effaith gwres ar iechyd mamau a babanod newydd yn benodol mewn cymunedau difreintiedig.

Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei annog a'i gefnogi i achub ar gyfleoedd datblygu gyrfa.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd - Gwasanaethau Proffesiynol Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr