Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00494
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£37,099 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
9 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Martin Gill m.r.gill@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae angen ymchwilydd ôl-ddoethurol (am gyfanswm o 24 mis) i gynnal ymchwil ar Ysgoloriaeth Pritchard a Moore Cancer Research Cymru "Radiosensiteiddwyr ar gyfer canser y fron triphlyg-negyddol". Cynhelir y gwaith ymchwil yn bennaf yn Adran Gemeg Prifysgol Abertawe, a bydd y prosiect yn cynnwys lleoliad gwaith 6 mis yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gweithio'n agos gyda chydweithwyr o Adran Oncoleg Prifysgol Rhydychen.

Mae'r rôl yn galw am syntheseiddio a nodweddu ymgeiswyr metallo-gyffur, eu gwerthuso fel rhwystrwyr ensymatig, a gwerthuso eu potensial therapiwtig mewn llinellau celloedd canser, gan gynnwys defnyddio pelydredd ïoneiddio i nodi radiosensiteiddwyr newydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag ymchwilwyr o ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys cemegwyr, biolegwyr celloedd a gwyddonwyr meddygol. Cynhelir y gwaith syntheseiddio moleciwlau bach, atal ensymau a phrofion celloedd nad ydynt yn cynnwys pelydredd ïoneiddio yn Adran Gemeg Prifysgol Abertawe, a bydd lleoliad gwaith yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle gwych i'r ymgeisydd gynnal profion imwnofflworolau uwch gydag astudiaethau pelydredd ïoneiddio.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd uwch mewn cemeg, cemeg feddygol neu bwnc cysylltiedig gyda'r awydd i gynnal ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng cemeg/bioleg/meddygaeth. Bydd angen profiad o gynnal gwaith syntheseiddio moleciwlau bach yn ogystal â dulliau meithrin celloedd, a rhoddir hyfforddiant pellach ar gynnal profion ar gelloedd a bio-brofion.  E-bostiwch Dr Martin Gill m.r.gill@abertawe.ac.uk neu Dr Chris Staples c.staples@bangor.ac.uk am ymholiadau anffurfiol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Llyfryn Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr