Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00511
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae ein Hadran Cyfrifeg a Chyllid yn gartref i oddeutu 35 o academyddion ac oddeutu 1,000 o fyfyrwyr, ac mae Canolfan Ymchwil Hawkes a'i rhaglenni yn cynnwys meysydd pwnc cyfrifeg a chyllid ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.Yng nghanlyniadau diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, rhestrwyd yr adran yn y 15fed safle (ymysg 102 o sefydliadau) y llynedd am ansawdd addysgu.

Rydym am benodi ymchwilydd deinamig ynghyd ag athro ymroddedig ym maes Cyfrifeg i wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd yr adran.  Mae gennym ddiddordeb penodol mewn ymgeiswyr sydd â diddordebau ymchwil a/neu addysgu mewn:

  • Rheoli Asedau
  • Cyllid corfforaethol
  • Rhaglenni ariannol

 Mae adeilad yr Ysgol Reolaeth yn cynnig cyfleusterau neilltuol gyda'i ystafelloedd cyfryngau pwrpasol a mynediad at gronfeydd data cyfrifeg a chyllid helaeth, e.e. Compustat a CSMAR drwy WRDS, S&P Global Market Intelligence (SNL Financials), FAME a Zephyr.  Rydym hefyd wedi sefydlu Labordy Cyllid yn ddiweddar gan ddefnyddio Refinitiv Workspace (sy'n cynnwys Datastream) a Factset lle gall myfyrwyr gyfranogi mewn prosiectau ymchwil i fasnachu a chyllid. Mae'r Ysgol hefyd yn gartref i hybiau arloesi rhai o'n partneriaid diwydiannol, megis Pfizer a sawl cwmni allgynhyrchu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn Staff Cyfrifeg a Chyllid - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

  • Rhestr o gyhoeddiadau - ar gyfer y llwybr Ymchwil Uwch;
  • Datganiad sy'n rhoi manylion am eich strategaeth ymchwil ac addysgu – dim mwy na 1,000 o eiriau

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho Candidate Pack - Welsh Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr