Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00520
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
23 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
10 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 18 mis yw hon.

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig wyth rhaglen radd amser llawn mewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan ychwanegu tair rhaglen ran-amser newydd ar gyfer 2024. Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae bron pob un o’r rhaglenni a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei haddysgu yn yr Ysgol hon. Yn ogystal â Gwyddor Gofal Iechyd, mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwyddor Barafeddygol. Mae hyn yn meithrin diwylliant o hyfforddiant proffesiynol ac addysg ryngddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag uned academaidd Gwyddor Gofal Iechyd. Bydd yr Hwylusydd Dysgu Clinigol mewn Ffisioleg Gardiaidd yn gyfrifol am gefnogi myfyrwyr Ffisioleg Gardiaidd pan fyddant yn treulio amser ar leoliadau gwaith.  Lleolir deiliad y swydd mewn byrddau iechyd yng Nghymru i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddiant addas ar gael i fyfyrwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod lleoliadau gwaith ar gael, gan ddarparu gwasanaethau clinigol yn ogystal â mentora myfyrwyr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n ystyried secondiad o swyddi yn y GIG.   

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr