- Rhif y Swydd
- SU00525
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,681 i £24,533 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Medi 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 3 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Petra Roach p.m.roach@swansea.ac.uk
- Nicola Rees n.j.rees@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd dros dro hyd at 31ain Gorffennaf 2025
Mae'r Tîm Ansawdd Academaidd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, cydlynu, arwain a darparu gwasanaethau cymorth a rheoli proffesiynol.
Fel Cynorthwyydd Ansawdd Academaidd a Datblygu Rhaglen byddwch yn derbyn hyfforddiant ar yr holl systemau a gweithdrefnau perthnasol ac yn gweithio yn unol â holl reoliadau, ordinhadau, polisïau a gweithdrefnau, llywodraethu a fframweithiau cyfansoddiadol, gan ofyn am arweiniad gan eich rheolwr llinell lle bo hynny'n briodol.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n drefnus iawn, yn rhagweithiol, gyda llygad cryf am fanylion ac yn gallu aml-dasg a gweithio i derfynau amser tynn, gan ragweld problemau a allai godi. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gydag ystod o staff academaidd a phroffesiynol o bob rhan o'r Gyfadran a'r Brifysgol. Mae'r gallu i ffurfio cydberthnasau gwaith effeithiol a chael dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Bydd tasgau nodweddiadol o fewn cylch gwaith deiliad y swydd yn cynnwys trefnu a chynnal cyfarfodydd, gweithio'n agos gydag aelodau'r pwyllgor a chynhyrchu cofnodion i safon uchel; monitro blychau e-bost Outlook a derbyn ymholiadau ffôn; darparu traws-glawr i'r Cynorthwywyr eraill yn y Tîm pan fo angen, diweddaru ac uwchlwytho dogfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o systemau mewnol a chefnogi'r swyddogaeth Achosion Myfyrwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwbl gyfarwydd ag ystod o becynnau Microsoft (Word, Excel, Teams) a bydd yn derbyn hyfforddiant ar systemau eraill fel mewnrwyd y Brifysgol a hwb Canvas.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.