Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00536
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
Dyddiad Cau
29 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
10 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am 3 diwrnod yr wythnos am gyfnod penodol yw hon yn bennaf i gefnogi'r Dystysgrif Astudiaethau Gofal Iechyd, ond bydd y rôl yn cynnwys dyletswyddau eraill i gefnogi rhaglenni proffesiynol eraill yn yr ysgol. Mae'r Dystysgrif mewn Astudiaethau Gofal Iechyd, ran-amser yn cael ei haddysgu yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd Gwyddor Bywyd. Mae'r rhaglen hon ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n gweithio mewn amgylcheddau nyrsio. Mae'n rhaglen gyfansawdd sy'n cynnwys dysgu theori ac ymarfer. Mae cysylltiad agos rhwng y myfyrwyr a'r gyfadran yn flaenoriaeth a cheir addysgu rheolaidd ar ein campws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ynghyd â dysgu ym meysydd clinigol y myfyrwyr.

Lluniwyd y Dystysgrif mewn Astudiaethau Gofal Iechyd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gwblhau cymhwyster lefel pedwar ffurfiol a chydnabyddedig i gyd-fynd â strategaeth 'Datblygu Rhagoriaeth mewn Gofal Iechyd' Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer cefnogi'r proffesiynau nyrsio a pherthynol i iechyd. Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar hunan-ddatblygiad, hunanymwybyddiaeth a datblygu eich sgiliau nyrsio a byddwch yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth dda o agweddau allweddol nyrsio

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud cyfraniad sylweddol at addysgu'r dystysgrif mewn astudiaethau gofal iechyd yn yr Adran, yn ogystal â chyfrannu at addysgu a goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws yr Ysgol.

Yn ogystal â rhannu cyfrifoldebau gweinyddol, sefydliadol ac academaidd, bydd disgwyl i'r unigolyn a benodir hefyd weithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol mewn Byrddau Iechyd Lleol i gefnogi myfyrwyr yn ystod profiadau dysgu clinigol.

Sylwer mai swydd cyfnod penodol yw hon tan 31 Gorffennaf 2025

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr