Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00548
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
Cystadleuol
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
27 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
14 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 2 flwyddyn yw hon.

Mae'r cynllun arloesol a chyffrous hwn yn darparu cyfle gyrfaol rhagorol i feddygon teulu sydd newydd gymhwyso neu rai profiadol sydd am feithrin gwybodaeth a phrofiad mewn addysg ac ymchwil feddygol. Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae cyllid ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â chymwysterau uwch yn eu maes diddordeb a hefyd i fynd i gynadleddau a chyflwyno ynddynt. O'r cyfleoedd a gynigir gan y cynllun, mae Cymrodorion blaenorol wedi sefydlu gyrfa bortffolio, yn cyfuno gwaith meddyg teulu ag addysg feddygol, ymchwil neu'r ddau.

Mae'r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy'n un o bum Ysgol Feddygaeth orau'r DU (Times Good University Guide 2023). Mae'r Ysgol ar y brig yn y DU am Amgylchedd Ymchwil ac yn ail am Ansawdd Cyffredinol yr Ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021).

Bydd Cymrodorion Academaidd amser llawn yn gweithio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am dri diwrnod yr wythnos, lle byddant yn gallu archwilio rhai o'r cyfleoedd addysgu ac ymchwil helaeth sy'n bodoli, gydag arweiniad. Am y ddeuddydd arall, byddant yn gweithio mewn meddygfa (ym Myrddau Iechyd Hywel Dda, Powys neu Fae Abertawe). Yn ystod y ddeuddydd ymarfer hyn, bydd tair sesiwn ar waith clinigol ac un sesiwn er mwyn i'r Cymrawd ddatblygu gwasanaethau a systemau a allai wella gofal cleifion i’r boblogaeth leol.  Dyrennir amser Cymrodorion rhan-amser yn unol â'u hanghenion unigol.  Er enghraifft, bydd Cymrawd sy'n gweithio 60% CALl yn gweithio yn y Brifysgol am ddeuddydd yr wythnos ac yn gweithio mewn Meddygfa Teulu am y diwrnod sy'n weddill.

Rôl am gyfnod penodol o 2 flynedd yw hon; Bydd Cymrodorion yn gweithio am flwyddyn mewn meddygfeydd gwahanol (h.y. dwy feddygfa yn ystod y rhaglen). Caiff meddygfeydd eu harfarnu gan Gyfarwyddwyr y Rhaglen cyn ac ar ôl gosod Cymrawd yno a bydd lleoliadau arfaethedig yn cael eu trafod â’r ymgeiswyr llwyddiannus cyn dyrannu.

Mae'n debygol y bydd y swyddi'n dechrau ym mis Ionawr 2025, ond mae'r dyddiad dechrau’n hyblyg. Rydym yn annog ymgeiswyr sydd am ymgymryd â'r cynllun Cymrodoriaeth ar sail lai nag amser llawn i gyflwyno cais.

Ceir rhagor o wybodaeth ac adolygiadau yma - https://www.gpfellowshipscheme.co.uk/

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr