Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00549
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
20 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
11 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae gennym 3 swydd ar gael am gyfnod penodol o 12 mis yn gweithio amser llawn.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i  gefnogi ein rhaglen diogelwch gwybodaeth. Rydym yn chwilio am dri pherson a fydd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a chydlynu ein swyddogaethau cydymffurfiaeth ym meysydd archwilio mewnol, rheoli asedau, ac asesu risg. Mae'r adran yn cynnal Banc Data SAIL a'r Platfform e-ymchwil Diogel (SeRP), dwy raglen ymchwil data sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang sydd â'r angen i gynnal safonau eithriadol mewn diogelwch gwybodaeth. Dim ond os yw'r sefydliad yn dangos ymrwymiad cryf tuag at welliant parhaus y gall safonau uchel gael eu cynnal, a bydd y rolau hyn yn allweddol er mwyn sicrhau darpariaeth ac effeithiolrwydd y rhaglen gwelliant hon. Bydd y swydd hefyd yn rhoi capasiti i'r adran oruchwylio ystod o swyddogaethau diogelwch gwybodaeth a gwella ein gallu i fonitro cydymffurfiaeth i'n safonau rhyngwladol. 

Bydd y rolau hyn yn rhan o’n grŵp diogelwch gwybodaeth a byddant yn gweithio'n agos gyda'n timau technegol, ymchwil a busnes. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus i'r rolau hyn yn gallu dangos ymagwedd frwdfrydig tuag at ddarganfod meysydd gwella ac i gefnogi dulliau creadigol i ddatrys problemau. Yn ogystal, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu hyrwyddo egwyddorion diogelwch, trwy osod esiampl ardderchog drwy eu harferion eu hunain a thrwy gefnogi eraill. 

Os rydych yn unigolyn rhagweithiol, sy'n cael eich ysgogi gan gydymffurfiaeth ac yn edrych i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn amgylchedd ymchwil deinamig, byddem yn croesawu eich cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr