- Rhif y Swydd
- SU00561
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £25,138 i £27,979 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 17 Hyd 2024
- Interview Dates
- 24 Hyd 2024 - 25 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Rhodri Major r.t.m.major@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hwn yn rôl amser llawn barhaol yn gweithio yn ystod y y tymor ysgol.
Mae'r Gwasanaethau TG yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid cyflym a bydd ail-lunio ein darpariaeth Desg Wasanaeth i fynd i’r afael â heriau cefnogi a galluogi buddsoddiad ehangach gwerth £20m yn y Gwasanaethau TG (mewn meysydd megis Seiberddiogelwch a Rhwydweithio) yn elfen sylfaenol allweddol.
Y weledigaeth fydd ailgysylltu ein darpariaeth cymorth TG ag anghenion ein cwsmeriaid, proffesiynoli ein gwasanaethau, arbed amser i bawb a phontio'r bylchau gallu sydd gennym. Y tîm Desg Wasanaeth TG newydd fydd wyneb cyhoeddus y Gwasanaethau TG a bydd yn gosod safonau mewn eiriolaeth ac ymgysylltiad â chwsmeriaid. Bydd cynnig cymorth a chyngor arbenigol a chymryd cyfrifoldeb am ddatrys problemau a bodloni ceisiadau mewn modd amserol ac effeithlon i gwsmeriaid yn allweddol i wireddu ein gweledigaeth.
Fel Technegydd y Ddesg Wasanaeth, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cymorth TG a chlyweledol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Defnyddio eich profiad a'ch sgiliau (yn ogystal â phrofiad a sgiliau aelodau eraill eich tîm a chydweithwyr yn y Gwasanaethau TG ehangach) i ymdrin â digwyddiadau ar draws y dirwedd TG a chlyweledol fydd prif her y rôl hon. Bydd hyn am 35 awr yr wythnos yn ystod y tymor ysgol - 39 wythnos y flwyddyn.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.