- Rhif y Swydd
- SU00566
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 23 Hyd 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 29 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Ella Rabaiotti e.c.rabaiotti@swansea.ac.uk
- Gideon Calder g.j.calder@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i ddatblygu enw da rhyngwladol yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol am ymchwil ac effaith arloesol, ac adeiladu ei safonau rhagorol mewn addysgu a phrofiad y myfyrwyr.
Mae ein hamgylchedd dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn canolbwyntio ar ddiwylliant staff yn blaenoriaethu hygyrchedd i fyfyrwyr a chyflwyno rhaglenni astudio deniadol ac arloesol.Yn ogystal â phortffolio israddedig sy'n cynnwys pob un o'n meysydd pwnc craidd yn ogystal â chyd-anrhydedd, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol a addysgir mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, Dulliau Ymchwil Gymdeithasol a Chyfiawnder Troseddol Gymhwysol a Throseddeg.
Mae'r Adran yn cynnal amrywiaeth o brosiectau ymchwil amlddisgyblaethol o safon ryngwladol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, a Chanolfan am Newid Cymdeithasol a sefydlwyd yn ddiweddar. Er bod ffocws llawer o'n hymchwil yn empirig (yn ansoddol ac yn feintiol) ac yn gymhwysol, fel Adran a Chanolfan, ein nod ni drwy ein gwaith yw cyfuno effaith byd go iawn â dimensiwn beirniadol cryf a sensitifrwydd i ddatblygiadau damcaniaethol presennol. Rydym yn ymrwymedig i gynnal lefel o ragoriaeth ymchwil sy'n gymesur â phroses y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Rydym yn croesawu ceisiadau gan droseddegwyr mewn unrhyw faes sydd â diddordeb mewn gweithio ar draws y disgyblaethau yn ein hadran. Gallai deiliad y swydd gyfrannu at feysydd presennol o gryfder yn ogystal â datblygu ei faes diddordeb personol a bydd disgwyl iddo ddenu cyllid ymchwil allanol er mwyn gwella enw da'r Adran.
Cefnogir gweithgareddau ymchwil yr Adran gan:
- Hyb Ymchwil sy'n darparu cymorth ar gyllid ymchwil
- Cymorth ysgrifenydd ceisiadau penodol ar gyfer cyflwyno ceisiadau am grantiau
- Lwfans ymchwil a datblygu personol
- Rhaglen sabothol
Rydym yn rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr ESRC, a sefydlwyd i hyrwyddo rhagoriaeth mewn hyfforddiant ôl-raddedig yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Adran ar gael yma.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Rmchwil). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr atodi'r dogfennau canlynol i'r cais hefyd:
- Curriculum Vitae a rhestr lawn o fodiwlau a addysgwyd a chyhoeddiadau;
- Agenda ymchwil dros bum mlynedd;
- Datganiad sy'n amlinellu eich profiad, athroniaeth a'ch uchelgeisiau addysgu, gan nodi unrhyw fodiwlau presennol yn yr Adran byddech chi'n fwyaf cyfforddus yn cyfrannu atynt yn eich barn chi.