Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00568
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
28 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Rhagfyr 2025, gan weithio’n amser llawn.

Diben y rôl yw cefnogi gwaith Prifysgol Abertawe yng nghydweithrediad Dementias Platform UK (DPUK), menter gwerth £53m rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i greu cyfleuster ymchwil i ddementia sy'n bellgyrhaeddol ac yn arloesol, gan gynnwys disgyblaethau ymchwil gwahanol o ymchwil i fôn-gelloedd dynol i ddadansoddi data.  Mae DPUK yn adnodd sy'n arwain y byd ar gyfer ymchwil i wahanol fathau o ddementia sy'n canolbwyntio ar geisio carlamu dealltwriaeth wyddonol, triniaethau ac atal y clefyd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae casgliad niwroddelweddu DPUK wedi tyfu'n gyflym, yn ogystal â cheisiadau prosiect i ddefnyddio'r data hwn. O ganlyniad bu'n rhaid i ni ddatblygu prosesau ac offer er mwyn gallu cefnogi darparu a dadansoddi'r data hwn.

Rydym yn chwilio am wyddonydd data i gyfrannu'n weithredol at ddatblygu casgliad data niwroddelweddu Dementias Platform UK a'i ymchwil arloesol. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at weithredu prosesau niwroddelweddu ym Mhorth Data DPUK, i gefnogi rheoli data niwroddelweddu megis anonymeiddio a safoni, datblygu a gwella ein hisadeiledd a'n hoffer data mawr, yn ogystal â chyfrannu at weithgareddau ymchwil.

Peidiwch â diystyru eich hun os nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf. Rydym ni'n chwilio am rywun sy'n frwdfrydig ac sydd â set o sgiliau amrywiol. Mae'r meini prawf yn disgrifio'r math o berson rydym ni'n credu bod ei angen arnom. Efallai y bydd gennych chi set o sgiliau neu brofiad nad ydym ni wedi'i ystyried. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi tystiolaeth yn eich CV a'ch llythyr eglurhaol o ran sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr