Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00580
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£12.69 yr awr
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
11 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Michelle Evans m.l.evans@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y swydd yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau canlynol neu bob un ohonynt:

 

  • Cysylltu â myfyriwr/myfyrwyr a threfnu i gwrdd â nhw i drafod gofynion Cymryd Nodiadau penodol.
  • Mae gan y Cymerwr Nodiadau ddyletswydd i sicrhau bod nodiadau'n gywir ac yn ddarllenadwy.
  • Dylid ysgrifennu nodiadau â llaw neu eu teipio yn fformat ac arddull ddewisol y myfyrwyr. Dylid anfon nodiadau at y myfyriwr/myfyrwyr ymhen pedwar deg wyth awr ar ôl y ddarlith. Dylid e-bostio nodiadau oni bai fod y myfyriwr/myfyrwyr wedi gofyn yn benodol am fformat arall.
  • Rhaid darparu copi o bob set o nodiadau darlith i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd drwy e-bostio notetaking@abertawe.ac.uk at ddibenion monitro.
  • Rhoi digon o rybudd i’r myfyriwr/myfyrwyr a’r Cydlynydd Cymorth Anabledd os nad yw’n gallu bod yn bresennol mewn darlith (o leiaf wythnos os bydd yn bosibl).
  • Gallu uniaethu â'r myfyrwyr y mae'n rhoi cymorth iddynt a gweithio'n annibynnol
  • Rheoli ei ddyddiadur ei hun i ddarparu cymaint o gymorth ag y gall ymrwymo iddo, wrth ufuddhau i bolisïau oriau gwaith y Brifysgol yn ogystal ag unrhyw gyfyngiadau fisa.
  • Gweithio gan roi sylw priodol i ofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data bob amser a sicrhau bod data personol sensitif yn cael ei storio a'i drin yn briodol, gan ystyried unrhyw geisiadau gan fyfyrwyr am gyfrinachedd wrth ymateb yn briodol i ddyletswydd gofal y sefydliad i bobl eraill.
  • Cyflwyno taflenni amser gan ddefnyddio system Connect yn wythnosol er mwyn i'r myfyriwr/myfyrwyr eu cymeradwyo erbyn dyddiad cau’r gyflogres ar ddiwrnod gwaith olaf y mis.
  • Cyn cytuno i roi unrhyw gymorth ychwanegol i fyfyriwr, RHAID i'r Cymerwr Nodiadau roi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd.
  • Efallai y bydd angen ymgymryd â thasgau penodol yn ogystal â'r rhai a amlinellir uchod. Os oes angen ymgymryd â thasgau ychwanegol, bydd y Cydlynydd Cymorth Anabledd yn eich cynghori.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Lawrlwytho Manual Notetaker Job Description.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr