- Rhif y Swydd
- SU00582
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £12.69 yr awr
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 3 Tach 2024
- Interview Dates
- 11 Tach 2024 - 19 Tach 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Michelle Evans m.l.evans@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y swydd yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau canlynol neu bob un ohonynt:
- Cwrdd â'r myfyriwr mewn lleoliad y cytunwyd arno a mynd gyda'r myfyriwr i ddarlith.
- Cwrdd â’r myfyriwr ar ddiwedd darlithoedd.
- Cynorthwyo'r myfyriwr i ddod o hyd i'w ffordd ar y campws yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo'r myfyriwr gyda siopa ar Gampws Prifysgol Abertawe o bosib.
- Rhoi digon o rybudd ymlaen llaw i'r myfyriwr/myfyrwyr a'r Cydlynydd Cymorth Anabledd os nad ydych yn gallu bod yn bresennol (o leiaf un wythnos os bydd yn bosib).
- Gweithio gyda'r Cydlynydd Cymorth Anabledd i ddarparu manylion cywir ar gyfer argaeledd i weithio.
- Gallu uniaethu â'r myfyrwyr byddwch yn rhoi cymorth iddynt a gweithio'n annibynnol.
- Rheoli eich dyddiadur eich hun i ddarparu cymaint o gymorth ag y gallwch ymrwymo iddo, wrth ufuddhau i bolisïau oriau gwaith y Brifysgol yn ogystal ag unrhyw gyfyngiadau fisa.
- Gweithio bob amser gan roi sylw priodol i ofynion GDPR a sicrhau bod data personol sensitif yn cael ei storio a'i drafod yn briodol, gan ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr am gyfrinachedd wrth ymateb yn briodol i ddyletswydd gofal y sefydliad i eraill.
- Cyflwyno taflenni amser gan ddefnyddio system Connect yn wythnosol er mwyn i'r myfyriwr/myfyrwyr eu cymeradwyo erbyn dyddiad cau’r gyflogres ar ddiwrnod gwaith olaf y mis.
- Cysylltu â'r myfyriwr/myfyrwyr os nad yw'r taflenni amser wedi'u cymeradwyo erbyn dyddiad cau'r gyflogres sef diwrnod gwaith olaf y mis.
- Cysylltu â'r Cydlynydd Cymorth Anabledd ynglŷn ag anghenion myfyrwyr unigol a sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu tynnu i'w sylw.
- Darparu’r manylion cyswllt diweddaraf os byddant yn newid.
- Rhoi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd am unrhyw newidiadau i drefniadau cymorth myfyriwr y cytunwyd arnynt.
- Cyn cytuno i gynnig cymorth ychwanegol ar gyfer myfyriwr, RHAID i'r Cynorthwy-ydd a golwg ganddo roi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.