Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00595
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£26,038 i £28,879 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
10 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn dîm perfformiad uchel sy'n gyfrifol am weinyddu ceisiadau i'r Brifysgol o'r ymholiad cychwynnol hyd at gofrestru, gan sicrhau bod yr ymgeisydd yn cael profiad ardderchog.

Rydym yn dymuno recriwtio dau weinyddwr brwdfrydig sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid i ymuno â'r Tîm Derbyn Myfyrwyr i gynorthwyo'n bennaf gyda gwaith prosesu ceisiadau, gan wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar feini prawf y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Felly, bydd deiliaid y swydd yn meddu ar synnwyr cyffredin da a'r gallu i wneud penderfyniadau. Bydd deiliaid y swyddi'n gweithio'n agos gyda'n Dewiswyr Derbyn Myfyrwyr, ein Tiwtoriaid Derbyn Myfyrwyr ac adrannau eraill, gan chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaeth derbyn myfyrwyr o safon sy'n hanfodol er mwyn recriwtio myfyrwyr i Brifysgol Abertawe.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi'i addysgu hyd at Safon Uwch neu gyfwerth, yn ogystal â meddu ar radd C TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, neu sy’n gallu dangos profiad gwaith cyfatebol. Byddwch yn gallu dangos profiad o ddeall gweithdrefnau a rheoliadau a'u cymhwyso mewn amgylchedd gwaith. Bydd gennych dystiolaeth o'r gallu i reoli llawer iawn o waith i lefel uchel o gywirdeb, ynghyd â sgiliau TGCh rhagorol a'r gallu i weithio fel rhan o dîm.

Swyddi am gyfnod penodol yw'r rhain, tan 30 Medi 2025.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr