Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00600
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£12.59 yr awr
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
6 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
13 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Uchelgais Prifysgol Abertawe yw creu amgylchedd aml-gamp sy'n arwain y sector drwy ei chyfleusterau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ac ar Gampws y Bae, ar gyfer athletwyr perfformiad uchel ac elît, staff a myfyrwyr y Brifysgol, a'r gymuned leol a chenedlaethol. Gan adrodd wrth y timau Rheolwr ar Ddyletswydd ac Uwch-gynorthwywyr Chwaraeon, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gyflawni gweithrediadau o ddydd i ddydd yng nghyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon a'r Pafiliwn ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, gan sicrhau y bodlonir y safonau uchaf o ofal cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a golwg a gwasanaethau’r cyfleuster. Ewch i www.swanseabaysportspark.wales/cy am ragor o wybodaeth am y cyfleusterau.

Mae rôl y Cynorthwy-ydd Chwaraeon yn gyfle gwych i'r rhai sy'n chwilio am yrfa mewn amgylchedd canolfan chwaraeon neu gampfa, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant neu'n meddu ar brofiad blaenorol. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni ei ddyletswyddau rhwng ein dau gyfleuster yn Lôn Sgeti a Champws y Bae. Mae'r rôl yn cynnig cyfle i weithio gydag aelodau ar lefel gyfranogiad ac ar lefel berfformiad, o gefndiroedd cymunedol a myfyrwyr. Am ragor o fanylion, darllenwch y Disgrifiad Swydd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

 Meini Prawf Hanfodol:

  1. Gwerthoedd sy'n cyd-fynd â rhai'r Brifysgol.
  2. Addysg sylfaenol gadarn hyd at oedran gadael yr ysgol.
  3. O leiaf gymhwyster Lefel 2 Hyfforddwr Campfa.

Gwybodaeth a Sgiliau:

  1. Arferion Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig ag amgylchedd chwaraeon.
  2. Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  3. Y gallu i weithio fel rhan o dîm bach yn ogystal ag yn annibynnol.
  4. Y gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron.
  5. Y gallu i weithio dan bwysau.

Meini Prawf Dymunol:

  1. Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
  2. Profiad blaenorol mewn cyfleuster chwaraeon.
  3. Profiad o werthu ac ymdrin ag arian parod.
  4. Gosod a dadosod cyfarpar chwaraeon.
  5. HND sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu debyg.
  6. Cymhwyster Cymorth Cyntaf.
  7. Diddordeb cyffredinol mewn datblygiad chwaraeon.
  8. Cymwysterau Hyfforddwr Ffitrwydd Dosbarthiadau.

 

Lawrlwytho Job Description Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr