- Rhif y Swydd
- SU00603
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £29,659 i £33,232 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Tach 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 19 Tach 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alla Silkina a.silkina@swansea.ac.uk
- Jose Gayo Pelaez jose.gayopelaez@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Oriau gwaith: 21 awr yr wythnos
Contract: Swydd am gyfnod penodol tan fis Mawrth 2025
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o ymchwilwyr a staff technegol ar gyfer y Grŵp Ymchwil Algâu, gan roi cymorth wrth feithrin algâu, cymryd camau prosesu dilynol, dadansoddi o safbwynt biocemegol a gweithredu cyfarpar priodol. Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys paratoi cyfryngau, cynnal a chadw meithriniadau algâu, gweithredu systemau cynhyrchu a chasglu algâu ac offeryniaeth gysylltiedig, a chadw cofnodion. Bydd deiliad y swydd yn gweithredu systemau cynhyrchu algâu ar gampws Singleton ym Mhrifysgol Abertawe ac ar safleoedd y partner diwydiannol Bragdy Bluestone.
Y prif ddyletswydd fydd:
- Paratoi cyfryngau meithrin algâu a chynnal a chadw prif feithriniadau algâu o dan amodau di-haint, sy'n cynnwys defnyddio offer arbenigol (gan gynnwys cypyrddau llif llafnol, awtoclafau). Yn cynnwys paratoi cyfansoddion a thoddiadau deunyddiau arbennig (h.y. nad ydynt ar gael yn fasnachol yn gyffredinol)
- Gweithredu systemau cynhyrchu algaidd yn rheolaidd, gan gynnwys: paratoi'r system a'i gwirio ymlaen llaw, gan gynnwys diheintio llestri a thoddiadau meithrin; paratoi taflenni cofnodion
- Gwrth-heintio systemau cynhyrchu ar raddfa fach (250mL) i raddfa fawr yn fwy na 1,000L
- Monitro a chofnodi biolegol (mesur helaethrwydd celloedd algâu, biomas, siâp a phresenoldeb / absenoldeb halogion), sy'n cynnwys defnyddio offer arbenigol fel Coulter Counter a thyrbidimedr.
- Mesur a chofnodi paramedrau cyfansoddiad biomas dŵr ac algâu gan ddefnyddio sbectroffotomedrau, lliwfesuryddion ac offerynnau llaw
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.