Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00604
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£46,485 i £55,295 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
21 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
28 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis, gan weithio 9 awr yr wythnos.

Rydym yn gwahodd Mynegiannau o Ddiddordeb mewn swydd gyffrous yn ein tîm Poblogaeth, Seiciatreg, Hunanladdiad a Gwybodeg (PPSI). Mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd unigryw i gyfrannu at ymchwil iechyd meddwl arloesol dan arweiniad yr Athro Ann John, cyd-gyfarwyddwr DATAMIND ac arweinydd y thema Gwyddor Data yn y Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm ehangach, gan nodi cwestiynau ymchwil ym maes iechyd meddwl poblogaethau a dylunio protocolau ymchwil epidemiolegol i ateb y cwestiynau hynny gan ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd yn SAIL.

Os ydych yn angerddol am iechyd meddwl, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer y swydd hon. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig y swydd ar sail secondiad mewnol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr