- Rhif y Swydd
- SU00607
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £37,999 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 27 Tach 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 11 Rhag 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Helen Hodges h.r.hodges@swansea.ac.uk
- Arron Lacey a.s.lacey@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Rhagfyr 2026, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am ymgeisydd a all ddechrau ym mis Mawrth 2025.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n weithredol at ymchwil arloesol gan ddefnyddio data dienw a gedwir ym Manc Data SAIL, gan gynnwys cofnodion sy'n ymwneud â’r llysoedd ynadon a llysoedd y Goron, carchardai, gofal cymdeithasol plant, addysg, camddefnyddio sylweddau ac iechyd.
O ystyried bod y prosiect yn canolbwyntio'n benodol ar anghyfartaledd a gwendidau ymhlith y rhai sydd wedi torri eu gorchmynion cyfiawnder troseddol, byddai'n fuddiol i ymgeiswyr feddu ar brofiad o ymgymryd ag ymchwil feintiol yn un neu fwy o'r meysydd polisi canlynol: gofal cymdeithasol plant, addysg, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl neu droseddeg. Fodd bynnag, rhoddir mwy o bwyslais ar ymgeiswyr yn meddu ar sgiliau dadansoddol/codio cryf gan fod cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cefnogi'r prif ymchwilydd (Dr Helen Hodges) wrth baratoi a dadansoddi'r gwahanol setiau data i archwilio amgylchiadau plant (dan 18 oed) sy'n rhan o achosion llys troseddol ledled Cymru a Lloegr. Rhagwelir y bydd deiliad y swydd hefyd yn rhan o weithgareddau adrodd a lledaenu gan gynnwys cysylltu â rhanddeiliaid allweddol a phartïon eraill sydd â diddordeb.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.