Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00608
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
13 Rhag 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rôl barhaol yw hon am 7 awr yr wythnos.

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig wyth rhaglen radd amser llawn, a chaiff tair rhaglen ran-amser newydd eu hychwanegu ar gyfer 2024. Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae bron pob un o’r rhaglenni a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei haddysgu yn yr Ysgol hon. Yn ogystal â Gwyddor Gofal Iechyd, mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwyddor Barafeddygol. Mae hyn yn meithrin diwylliant o hyfforddiant proffesiynol ac addysg ryngddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag uned academaidd Gwyddor Gofal Iechyd. Bydd yr Hwylusydd Dysgu Clinigol mewn Ffiseg Radiotherapi yn gyfrifol am gefnogi myfyrwyr Ffiseg Radiotherapi pan fyddant yn treulio amser ar leoliadau gwaith. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddiant addas ar gael i fyfyrwyr mewn adrannau'r GIG ledled Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod lleoliadau gwaith ar gael, gan ddarparu gwasanaethau clinigol yn ogystal â mentora myfyrwyr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n ystyried secondiad o swyddi yn y GIG.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr