Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00610
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
26 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
5 Rhag 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol o 2 flynedd yw hon.

Croesewir ceisiadau am swydd Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i weithio ar brosiect o fri 2 flynedd o hyd a ariennir gan UKRI yng nghyfleuster Vsimulators ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae'r swydd hon yn ddelfrydol i unigolyn sydd â diddordeb mewn cymhwyso ymchwil ffisioleg ddynol i broblemau'r byd go iawn.

Wedi'i gyflogi ym Mhrifysgol Abertawe, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar sail amser llaw ym Mhrifysgol Caerfaddon, oherwydd fod y gwaith profi’n cael ei gynnal yn y cyfleuster profi VSimulators sydd wedi'i leoli yno. Bydd angen i chi fod ym Mhrifysgol Caerfaddon y rhan fwyaf o’r diwrnodau.

Byddwch yn ymuno â chydweithrediad hynod ryngddisgyblaethol ac yn gweithio dan oruchwyliaeth peirianwyr strwythurol (yr Athro Antony Darby ym Mhrifysgol Caerfaddon a'r Athro Aleksander Pavic ym Mhrifysgol Caerwysg), ffisiolegwyr (Dr Jen Davies ym Mhrifysgol Caerdydd) a seicolegwyr (yr Athro Ian Walker ym Mhrifysgol Abertawe, arweinydd y prosiect) i adeiladu dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae symudiad adeiladaun effeithio ar bobl a chyfleu hyn mewn canllawiau dylunio ar gyfer y diwydiant adeiladu. Disgwylir y bydd 41,000 o adeiladau tal ychwanegol yn y byd erbyn 2050. Mae adeiladu adeiladau'n cyfri am o leiaf 11% o’r holl allyriadau carbon byd-eang. Mae angen i ni ddefnyddio llawer llai o ddeunydd mewn adeiladau tal ar frys i leihau allyriadau carbon ond ni allwn wneud hyn nes gwybod sut bydd y cynnydd canlyniadol yn symudiad siglo’r adeilad yn effeithio ar breswylwyr. Byddwn yn darparu'r wybodaeth hon am y tro cyntaf ac yn ei throsi'n gyflym i’r canllawiau gweithredu y mae'r diwydiant adeiladu yn ein hysbysu y mae eu hangen ar frys.

Mae'r cyfleuster VSimlulators ym Mhrifysgol Caerfaddon yn defnyddio tafluniad realiti rhithwir a phlatfform hydrolig sy'n symud, wedi’u cyfuno â goleuo, sain, tymheredd a rheolaethau llif aer, i drochi pobl mewn ystod o amgylcheddau byw. Bydd deiliad y swydd yn arwain prosiect i efelychu adeilad sy'n siglo yn realistig a mesur ymatebion ffisiolegol a dehongliadau seicolegol yr ymatebion hyn i ddeall pam a sut mae'r symudiad siglo yn effeithio ar y corff a'r canfyddiad o symudedd. Bydd yn gweithio'n agos gyda gweddill y tîm i ddylunio'r arbrawf a bydd yn gyfrifol yn bennaf am gasglu data (gan gynnwys recriwtio cyfranogwyr), prosesu data a dehongli data, yn ogystal â'i lledaenu i randdeiliaid academaidd a diwydiannol. Bydd yn cael ei gefnogi gan gynorthwy-ydd ymchwil amser llawn ac yn gweithio'n agos gydag ef ar y prosiect.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar PhD mewn ffisioleg ddynol, Cinesioleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig, a meddu ar arbenigedd sefydledig a phortffolio profedig o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn ei faes arbenigol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr hefyd feddu ar brofiad o gynnal prosiectau rhyngddisgyblaethol cymhleth.  Mae profiad blaenorol mewn casglu, prosesu a dadansoddi data ffisiolegol megis electromyograffeg, adweithiau grym a chanolbwynt gwasgedd, mesuryddion cyflymu, electrculograffeg, photoplethysmograffeg, a/neu weithgarwch electrodermol, ynghyd â sgiliau rhaglennu cyfrifiadur yn hanfodol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn gyda sgiliau trefnu rhagorol, yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol. Mae profiad blaenorol o weithio gyda'r diwydiant yn ddymunol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cefnogol, rhyngddisgyblaethol sy'n cwmpasu pedair prifysgol (Caerfaddon, Caerdydd, Caerwysg ac Abertawe) ac yn ymrwymedig i gefnogi datblygiad ymchwilwyr gyrfa gynnar. Croesewir ymholiadau anffurfiol - cysylltwch â Dr Jen Davies(DaviesJ@Cardiff.ac.uk).

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi’u tangynrychioli yn y byd ymchwil a byddem yn croesawu ceisiadau gan ddynion yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr