- Rhif y Swydd
- SU00612
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,105 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 26 Tach 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Rhag 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Yuqin Wang y.wang@swansea.ac.uk
- William Griffiths w.j.griffiths@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae grŵp ocsisterol Abertawe ar flaen y gad o ran datblygu dulliau sbectrometreg màs ar gyfer dadansoddiadau sterol ac yn dal breintlythyr UDA ar gyfer dadansoddiadau sterol. Mae ymchwil y grŵp yn canolbwyntio ar fetaboledd colesterol a'i berthynas ag iechyd a chlefydau dynol. Mae'r labordy'n llawn offer o'r radd flaenaf. Rydym yn chwilio am ymchwilydd ôl-ddoethurol brwdfrydig iawn a hoffai ddatblygu ei sgiliau gwyddonol ym maes sbectrometreg màs a darganfod biofarcwyr mewn perthynas â chyflyrau heintus a chlefydau niwroddirywiol. Rydym yn cydweithredu'n eang â biolegwyr, clinigwyr a byd diwydiant. Byddwch yn rhan o raglen darganfod biofarcwyr sterol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfle i gysylltu â rhwydwaith helaeth o gydweithredwyr, mynd i gynadleddau gwyddonol a cyhoeddi canlyniadau ei waith mewn cyfnodolion blaenllaw. Rydym yn cynnig mentora a chymorth gwych i chi ddatblygu yn eich gyrfa.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.