- Rhif y Swydd
- SU00630
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £26,038 i £28,879 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Adnoddau Dynol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Rhag 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Rhag 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Angharad Keefe A.E.M.Keefe@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae gennym 2 swydd tymor penodol tan 31 Gorffennaf 2025 yn gweithio 35 awr yr wythnos.
Mae'r adran AD yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth proffesiynol rhagweithiol o safon uchel a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl staff a rheolwyr ar faterion sy'n ymwneud ag adnoddau dynol.
Mae'r tîm AD ar daith o dwf, newid a thrawsnewid. Bydd gan y Cynorthwyydd AD Ymgynghorol rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chyngor proffesiynol i'n holl aelodau staff, a bydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth AD rhagweithiol ac effeithlon, sy'n canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid, i reolwyr a staff yn y Colegau Academaidd a'r Adrannau Gwasanaeth Proffesiynol drwy gydol cyfnod cyflogaeth aelodau staff.
Bydd y Cynorthwyydd AD Ymgynghorol yn cefnogi'r Rheolwr Cyflawni Gwasanaethau AD gyda phrosesau AD lleol o ddydd i ddydd. Os hoffech weithio gyda chymuned AD gref, mewn amgylchedd dynamig, sy'n datblygu ac yn symud yn gyflym, gallai'r cyfle hwn fod yn ddelfrydol i chi.
Bydd y Cynorthwyydd AD Ymgynghorol yn gyfrifol am sicrhau bod canlyniadau AD yn cael eu cyflawni'n brydlon ac i'r safon ofynnol drwy gydol cyfnod cyflogaeth aelodau staff (e.e. recriwtio, absenoldeb, contractau cyfnod penodol, cyfnodau prawf) yn unol â Strategaeth a Chynllun Gweithredu AD y Brifysgol. Bydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau ymagwedd systematig tuag at nodi problemau, risgiau a chyfleoedd; darparu atebion arloesol mewn partneriaeth â chydweithwyr AD, rheolwyr a staff; mabwysiadu ymagwedd gwelliant parhaus, gan ddefnyddio gwybodaeth reoli a data gwrthrychol i sicrhau bod atebion yn ychwanegu gwerth ac yn hwyluso perfformiad cynaliadwy ar gyfer cwsmeriaid.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio yn unol â Gwerthoedd y Brifysgol. Bydd profiad o ddarparu gwasanaethau AD proffesiynol ac effeithlon sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn allweddol. Mae'n rhaid bod gennych brofiad sylweddol o gyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i sicrhau bod canlyniadau AD/busnes ar gyfer y cwsmeriaid yn cael eu cyflawni i'r safon ofynnol. Mae disgrifiad swydd llawn wedi'i atodi.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.