Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00631
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
29 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Professor Harshinie Karunarathna h.u.karunarathna@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r swydd Tiwtor, cyfnod penodol, ran-amser hon yn 25% CALl am 26 mis o 01.05.2025 i 31.06.2027, wedi'i hariannu'n llwyr drwy grant ymchwil yr Athro Harshinie Karunarathna gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Bydd y tiwtor, a oruchwylir yn uniongyrchol gan yr Athro Harshinie Karunarathna, yn cyflenwi ac yn cefnogi wrth gyflwyno'r addysgu a chyfrifoldebau gweinyddol yr Athro Karunarathna. Mae'r rôl yn cynnwys addysgu modiwlau, asesu myfyrwyr a goruchwylio myfyrwyr israddedig. Bydd yr holl ddyletswyddau'n gysylltiedig â chefnogi cyfrifoldebau addysgu'r Athro Karunarathna.

Dylai'r ymgeisydd fod yn gyfarwydd â gwaith addysgu'r Athro Karunarathna, yn benodol Brosesau a Pheirianneg Arfordirol, a Rheoli Risg Llifogydd Arfordirol. Dylai'r ymgeisydd feddu ar brofiad ymchwil mewn egwyddorion dynameg arfordirol, cynhyrchu a thrawsnewid tonnau, prosesau arfordirol ger y lan, cerrynt sy'n cynhyrchu tonnau yn yr ardal syrffio, a dadansoddi risg llifogydd arfordirol a'i rheoli gan fod y ddau'n defnyddio agweddau ar yr ymchwil gysylltiedig. Dylai'r ymgeisydd fod yn barod i addysgu'n syth ar ôl cael ei benodi. Dylai hefyd fod yn barod i gefnogi myfyrwyr prosiectau israddedig yr Athro Karunarathna o ddechrau'r rôl, a gall peth o'r gwaith fod ar y cyd â Chanolfan Monitro Arfordir Cymru (WCMC). O ganlyniad, dylai fod yn gyfarwydd ag adnoddau data arfordirol WCMC a rhaglenni mesur meysydd.

Mae dehongliad y disgrifiad swydd hwn yn unol â disgresiwn deiliad y grant hwn sef yr Athro   Harshinie Karunarathna gan fod hon yn rôl hynod arbenigol sy'n cyflenwi am ddyletswyddau addysgu'r Athro Karunarathna. Cysylltwch â'r Athro Harshinie Karunarathna (H.U.Karunarathna@abertawe.ac.uk) am fanylion penodol a gwybodaeth ychwanegol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae'r swydd hon wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â Grant Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme yr Athro Harshinie Karunarathna ac wedi'i hariannu ganddo.  Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Harshinie Karunarathna (H.U.Karunarathna@abertawe.ac.uk)

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr