- Rhif y Swydd
- SU00642
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,105 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 19 Rhag 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 6 Ion 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Niels Madsen n.madsen@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae cydweithrediad ALPHA yn CERN yn syntheseiddio ac yn dal gwrth-hydrogen ar gyfer profion cymesuredd sylfaenol manwl gywir. Mae’r cydweithrediad yn arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes sbectrosgopeg gwrth-hydrogen ac yn ddiweddar mae wedi cynnal astudiaeth gyntaf o ddylanwad disgyrchiant ar wrth-hydrogen. Mae rhaglen ddiweddaru sylweddol ar waith â’r nod o gyflawni neu ragori ar gywirdeb sbectrosgopeg mewn hydrogen arferol. Mae Prifysgol Abertawe'n aelod sefydlu ac yn un o brif randdeiliaid y cydweithrediad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm Abertawe yn CERN a bydd yn dod yn aelod llawn o gydweithrediad ALPHA.
Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am gamau terfynol integreiddio ein system cronni gwrth-hydrogen â chymorth Be+ gyda’r cyfleusterau sbectrosgopeg a disgyrchiant, a bydd yn cyfrannu at ddatblygu mesuriadau magnetometreg, thermometreg a chryfder maes rf newydd gan ddefnyddio ionau Be+. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd yn cyfranogi’n llawn yn rhaglen ffiseg arbrawf ALPHA yn CERN ac yn cyfrannu ati.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.