Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00677
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£23,581 i £25,433 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
13 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
21 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Carly Taylor c.a.taylor@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd deiliad y swydd allweddol hon yn gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr. Gweithio fel rhan o dîm gyda Chynorthwywyr Gwybodaeth i Fyfyrwyr eraill a chydweithwyr eraill i ddarparu gweithrediad blaen y tŷ croesawgar, cadarnhaol a chefnogol a darparu cymorth a chefnogaeth i'r Swyddogion Gwybodaeth Myfyrwyr a Rheolwr MyUniHub, yn ôl y galw.

Prif nod y Cynorthwy-ydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr (Dwyieithog) yw darparu croeso cwrtais i MyUniHub a bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth eang o fyfyrwyr ac ymwelwyr. Ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol, effeithlon, sensitif a chwrtais boed ydynt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost. Pan fo'n bosib, ymateb i ymholiadau fel cyswllt cyntaf neu gyfeirio pobl at y ffynonellau gwybodaeth a chysylltiadau priodol pan na fydd ymateb cychwynnol yn bosib. Ymdrin ag ymholiadau'n gyfrinachol ac mewn ffordd ddiplomatig, yn unol â Rheoliadau Diogelu Data. 

Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg sylfaenol gadarn. Cyfwerth â 5 TGAU gan gynnwys o leiaf Radd ‘C’ mewn Mathemateg a Saesneg. Er nad yw cymhwyster yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu gallu i ddeall ystod o ohebiaeth sy'n ymwneud â'r swydd gan gynnwys pan ddefnyddir iaith safonol; cynnal sgwrs syml ynghylch pwnc sy'n berthnasol i'r gwaith, ond efallai y bydd yn rhaid troi'n ôl i'r Saesneg i drafod gwybodaeth gymhleth neu dechnegol, a gallu llunio gohebiaeth ymateb yn weddol gywir yn Gymraeg (nad yw'n arbenigol).

Profiad o weithio mewn amgylchedd cwsmeriaid, yn ddelfrydol, mewn rôl blaen y tŷ, gan feddu ar brofiad sylweddol o waith gweinyddol, yn ddelfrydol, profiad o weithio gyda myfyrwyr ac mewn amgylchedd prysur dan bwysau.

Dylai ymgeiswyr gynnwys cyfeiriadau at y gwerthoedd a’r rhinweddau personol yn eu ceisiadau, yn ogystal ag at y meini prawf hanfodol a dymunol. Bydd y panel yn asesu ymgeiswyr ar sail yr holl sgiliau a rhinweddau hyn.

Am ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: Carly Taylor, Rheolwr MyUniHub, E-bost: c.a.taylor@abertawe.ac.uk    

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.

Oherwydd natur y rôl a'r gwasanaethau y mae'r gwasanaeth yn eu cyflwyno, nid oes modd i fyfyrwyr presennol gyflwyno cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr