Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00767
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
31 Maw 2025
Dyddiad Cyfweliad
20 Mai 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r adran yn recriwtio Darlithydd Ysgrifennu Creadigol amser llawn a rhan-amser (0.5) â ffocws ar Ysgrifennu Dramatig (Ysgrifennu ar gyfer Perfformio/Ysgrifennu ar gyfer y Llwyfan), Ysgrifennu Ffuglen ac Ysgrifennu Ffeithiol Creadigol


Mae Ysgrifennu Creadigol yn ddisgyblaeth fywiog sy'n tyfu ac yn rhan hanfodol o’r Adran Llenyddiaeth Saesneg a'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Mae man geni Dylan Thomas wedi cael ei ystyried ers amser hir yn ganolfan greadigol a diwylliannol bwysig, ac mae Ysgrifennu Creadigol yn ymroddedig i hyrwyddo llenyddiaeth a gwaith creadigol yng Nghymru a'r tu hwnt. Rydym am benodi darlithydd Ysgrifennu Creadigol amser llawn a rhan-amser a fydd yn gweithio gyda thîm ymrwymedig a chefnogol i ddarparu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig mewn ysgrifennu dramatig (ysgrifennu ar gyfer perfformio/ysgrifennu ar gyfer y llwyfan), ysgrifennu ffuglen (lenyddol, boblogaidd, ysgrifennu ar gyfer plant), ac ysgrifennu ffeithiol creadigol (ysgrifennu am natur, teithio, hunangofiannau et al.). Mae holl aelodau'r tîm Ysgrifennu Creadigol yn ymarferwyr proffesiynol yn eu meysydd, ac mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau a chydnabyddiaeth ryngwladol am eu gwaith. Rydym yn disgwyl y bydd yr holl ymgeiswyr yn weithredol wrth ysgrifennu a chyhoeddi a chredwn y byddant yn cael eu hysbrydoli gan leoliad godidog a bywyd diwylliannol cyfoethog Abertawe. Efallai gofynnir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu y tu allan i'w feysydd arbenigedd penodol a disgwylir iddo hefyd gyfrannu'n llawn at yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu o ran dyletswyddau gweinyddol, tiwtoriaid personol, cymorth myfyrwyr a thasgau sy'n briodol i'r rôl. Mae Ysgrifennu Creadigol yn cynnig rhaglenni israddedig, Meistr a PhD bywiog â thros 50 o fyfyrwyr PhD yn gweithio yn y maes ar hyn o bryd. Mae Prifysgol Abertawe'n gartref Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn ogystal â'r Sefydliad Diwylliannol sy'n hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant i bawb, gan feithrin partneriaethau a gwella profiad y myfyrwyr.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

 

Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau 

Lawrlwytho Llyfryn Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd - Llawn Amser Lawrlwytho Disgrifiad swydd - Rhan Amser Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr