Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00783
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
9 Ebr 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Tîm y We Prifysgol Abertawe yn chwilio am Swyddog Datblygu'r We profiadol i gefnogi amrywiaeth eang o dasgau digidol a rheoli cynnwys. Dyma gyfle gwych i gydweithio â golygyddion y we, crewyr cynnwys a datblygwyr y we i wella defnyddioldeb a darparu profiad rhagorol i ddefnyddwyr ar draws ein platfformau ar-lein.

Fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer defnyddwyr y we ar draws y Brifysgol, bydd angen sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol arnoch i gynorthwyo wrth ddatrys problemau technegol sy'n ymwneud â chynnwys. Byddwch hefyd yn rhoi arweiniad, hyfforddiant a chymorth ar arferion gorau ar gyfer datblygu'r we a rheoli cynnwys.

Mae'r rôl hon yn cyfuno arbenigedd marchnata â chyfrifoldebau rheoli'r we, sy'n galw am sgiliau trefnu cryf, sylw i fanylion a galluoedd datrys problemau effeithiol. Byddwch yn hapus i ddatrys problemau technegol o ran cynnwys, gweithio gyda phlatfformau digidol, a chyfrannu at wella profiad y defnyddiwr yn barhaus.

Byddwch yn cydweithredu’n agos â Swyddogion Marchnata'r We i arwain rhaglen o welliannau parhaus, gan sicrhau bod gwefan y Brifysgol yn diwallu anghenion ei defnyddwyr yn gyson.

Mae profiad o greu a rheoli cynnwys ar y we, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o Systemau Rheoli Cynnwys, yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  Byddai gwybodaeth am safonau hygyrchedd ac egwyddorion optimeiddio peiriannau chwilio hefyd yn ddymunol iawn.

Os ydych yn gallu datrys problemau mewn ffordd ragweithiol ac mae gennych angerdd am gynnwys digidol ac ymrwymiad cryf i ragoriaeth, bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous i gyfrannu at dîm arloesol a blaengar.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i'r afael â sut rydych chi'n cwrdd â'r fanyleb person fel y manylir yn y disgrifiad swydd drwy dynnu sylw at eich cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.

Lawrlwytho Disgifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr