Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00794
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£46,485 i £55,295 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
28 Ebr 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym am benodi Uwch-ddarlithydd gydag arbenigedd mewn Fferylliaeth  i gefnogi ehangu'r rhaglen MPharm a helpu i baratoi graddedigion ar gyfer eu rolau clinigol sy'n ehangu yn y gweithlu fferyllol. 

Gan chwarae rhan amlwg wrth reoli lleoliadau gwaith israddedig MPharm, dylai ymgeiswyr fod yn fferyllwyr sydd wedi'u cofrestru gyda'r GPhC, yn ddelfrydol bydd ganddynt arnodiad presgripsiynydd annibynnol. Serch hynny, gellir ystyried fferyllwyr sydd wedi'u cofrestru dramor, technegwyr fferylliaeth sydd wedi'u cofrestru gyda'r GPhC neu ymgeiswyr nad ydynt yn fferyllwyr a chanddynt brofiad sylweddol o fferylliaeth os ydynt yn bodloni meini prawf y fanyleb person. Mae'r rôl yn addas i ymgeiswyr sydd â chefndir mewn addysg uwch neu brofiad mewn sectorau eraill y proffesiwn fferyllol.

Mae'r cwricwlwm yn Abertawe yn cynnwys addysg ryngbroffesiynol, cynnwys y cyhoedd a chleifion, dysgu uwch ar leoliadau gwaith a sgiliau clinigol uwch, pob un ohonynt wedi'i ategu gan egwyddorion gwyddonol sylfaenol sy'n ffurfio rhaglen integredig sydd ar flaen y gad o ran addysg fferylliaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysgu Ymarfer Fferylliaeth, a byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn cynnwys rhanddeiliaid cymunedol a meithrin perthnasoedd, yn benodol ymhlith partneriaid lleoliadau gwaith a chleifion ac aelodau'r cyhoedd sy'n gwirfoddoli.

Ein nod yw helpu myfyrwyr i ddod yn fferyllwyr sy’n arwain yn eu maes, boed wrth reoli cleifion mewn cyd-destun clinigol, creu a datblygu meddyginiaethau newydd neu gynnig iechyd gwell yn y gymuned. Ein nod yw datblygu rhaglen a fydd yn diwallu anghenion y proffesiwn fferyllol nawr ac yn y dyfodol yng Nghymru, gan ysbrydoli a denu myfyrwyr uchelgeisiol a chefnogi uchelgeisiau hirdymor y weledigaeth Fferylliaeth: Cyflwyno gweledigaeth Cymru iachach. 

Byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar a chalonogol o academyddion fferylliaeth a grŵp ehangach o gydweithwyr proffesiynol gofal iechyd cefnogol ar draws y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae Abertawe'n lle gwych i fyw a gweithio - dyma'r porth i benrhyn Gŵyr a'i draethau gwych ac mae'n agos at Fannau Brycheiniog.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr