Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00800
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
7 Mai 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd barhaol yw hon wedi'i lleoli ar Gampws Singleton a Champws y Bae yn y Tîm Gwasanaethau Isadeiledd Ystadau, gan weithio ar draws holl safleoedd y Brifysgol ac ar y penwythnos ar adegau. Bydd y Swyddog Technegol (Mecanyddol) yn darparu gwybodaeth a phrofiad proffesiynol a thechnegol i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau ystadau a champws y Brifysgol yn llwyddiannus, gan sicrhau amgylchedd adeiledig diogel sydd wedi'i gynnal a’i gadw’n dda ar gyfer cymuned y Brifysgol.

Yn atebol i Uwch-swyddog Technegol, disgwylir i ddeiliad y swydd ddirprwyo ar gyfer rôl yr Uwch-swyddog Technegol yn ôl yr angen. Byddwch yn darparu cymorth technegol proffesiynol a mecanyddol i gynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaethau Technegol y Brifysgol, gan gynnwys gwaith cynlluniedig ac ymatebol ar gyfer gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau ac isadeiledd ehangach y Brifysgol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws Ystadau a Gwasanaethau Campws ar effeithlonrwydd ynni a dŵr a chyllid datgarboneiddio a phrosiectau gweithredu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod isadeiledd, adeiladau, peiriannau ac offer y campws yn effeithlon o ran ynni/dŵr, yn gosteffeithiol ac yn cefnogi amcanion sero net strategol y Brifysgol yn llawn.

Fel crefftwr neu Swyddog Technegol cymwysedig a phrofiadol, bydd gennych ethos cryf o roi'r cwsmer yn gyntaf. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da a byddwch yn darparu ffyrdd clir, cywir a chyson o gyfathrebu ag eraill. I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o'r systemau mecanyddol amrywiol ar draws ystad y Brifysgol. Bydd rhaid i chi fod yn rhywun sy'n ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth ac sy'n mwynhau darparu diagnosis cywir o ddiffygion i ddatrys problemau'n gyflym. Bydd gennych y gallu i reoli gwaith a sgiliau cyfathrebu cryf, ynghyd â'r gallu i grynhoi manylion technegol i gydweithwyr. Bydd gennych agwedd gadarnhaol ac ymagwedd hyblyg ac addasadwy at eich gwaith, a byddwch yn gyfforddus pan fydd angen newid blaenoriaethau'n sydyn. Byddwch yr un mor gyfforddus yn gweithio ar eich pen eich hun ag y byddwch fel rhan o dîm.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr