Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00802
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£46,735 i £55,755 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
22 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
12 Mai 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn recriwtio Uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth. Mae'r rôl barhaol hon, yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus, yn chwilio am ymgeisydd i gyfrannu at ei diwylliant ymchwil ac addysgu deinamig, yn enwedig mewn ymchwil effaith uchel.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o gyllid ymchwil a chymorth sefydliadol drwy grwpiau adrannol, yn y gyfadran a ledled y brifysgol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad ymchwil sylweddol gydag enw da cenedlaethol neu ryngwladol mewn Gwleidyddiaeth, Gwyddor Wleidyddol neu Bolisi Cyhoeddus. Er bod yr arbenigedd yn gallu bod yn hyblyg, bydd rhaid cyd-fynd ag uned ymchwil Astudiaethau Gwleidyddiaeth a Rhyngwladol y Brifysgol. Mae cryfderau ymchwil yr adran yn cynnwys polisi cyhoeddus, polisi cyffuriau, llywodraethu, etholiadau, pleidiau gwleidyddol, gwleidyddiaeth hunaniaeth a mudo. Disgwylir i'r person a benodir weithio gyda thimau a strwythurau ymchwil presennol, gan gynnwys y Grŵp Gwleidyddiaeth Gymharol ac Ymchwil i Bleidiau.

Mae'r rôl yn galw am addysgu effeithiol ac arloesol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, gan bwysleisio dulliau ymchwil. Mae cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig a chyfrannu at y rhaglenni BA ac MA Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Ar lefel Uwch-ddarlithydd, mae dyletswyddau gweinyddol yn cynnwys llywio diwylliant ymchwil yr adran, ymgysylltu â sefydliadau ymchwil y gyfadran ac adeiladu ar gydweithrediadau sy'n bodoli â rhwydweithiau allanol gan gynnwys Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).  Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol wrth ddatblygu rhagoriaeth y brifysgol mewn ymchwil, addysgu a phrofiad y myfyrwyr wrth ymgysylltu â chydweithrediadau rhyngwladol posib.  Efallai bydd yr ymgeiswyr yn ymgymryd â chyfrifoldebau addysgu a rheoli yn yr ysgol a/neu ledled y gyfadran.

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth, gan annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli enwedig menywod ac unigolion BAME.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Rmchwil). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr