Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00837
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
Cystadleuol
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Ebr 2025
Dyddiad Cyfweliad
11 Ebr 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais am un o'n swyddi ymchwil lawfeddygol arloesol yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r swyddi hyn yn gyfle i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus gyfuno ymchwil lawfeddygol academaidd effaith uchel ag ystod eang o waith clinigol. Byddai'r meysydd ymchwil yn addas ar gyfer hyfforddeion llawfeddygol ym meysydd llawfeddygaeth y colon a'r rhefr, llawfeddygaeth blastig, wroleg neu ENT neu ddiddordebau hepato-biliari. Caiff ymgeiswyr eu goruchwylio'n agos gan lawfeddygon academaidd a chydweithwyr yn y Brifysgol yn y ddisgyblaeth honno sydd â phrofiad o lwyddiant wrth oruchwylio graddau uwch. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus weithio tuag at radd uwch (MSc, MPhil, MD neu PhD). Mae amrywiaeth o brosiectau ymchwil a ariennir ar gael a gellir dewis y lleoliad hefyd (naill ai mewn labordy neu ffocws mwy clinigol) gan ddibynnu ar allu a dewisiadau'r ymgeisydd llwyddiannus.

Lleolir y swydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe a Phrifysgol Abertawe.

Mae tri phrif gweithgaredd gan yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe: dysgu ac addysgu; ymchwil; a busnes ac arloesi. Dyma rai o'r cerrig milltir yn ei hanes: sefydlu'r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn 2004; agor cam un y Sefydliad Gwyddor Bywyd yn 2007 a cham dau a’r Ganolfan NanoIechyd yn 2011; ennill yr hawl i ddyfarnu Prif Gymwysterau Meddygol yn annibynnol ar unrhyw sefydliad arall yn 2014; Caiff yr Ysgol Feddygaeth ei chydnabod bellach fel un o'r ysgolion meddygol sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae ymhlith y 10 Ysgol Feddygaeth orau yn y DU.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gennych MRCS (neu gyfwerth) a byddwch wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs Gofalu am Gleifion Llawfeddygol sy’n Ddifrifol Wael yr RCS (CCrISP) neu gyfwerth. Tystiolaeth o roi arfer arloesol ar waith, gan gynnwys gwerthuso a chael canlyniadau cadarnhaol ar sail ymchwil a gwybodaeth gyfredol yn y maes. Dylech hefyd allu dangos tystiolaeth o wella ymarfer proffesiynol, ymchwil neu addysgu gan arddangos o leiaf ddau weithgaredd datblygu proffesiynol parhaus yn y flwyddyn ddiwethaf.

Atodwch y canlynol i'ch cais:

  • CV (gan gynnwys eich rhestr o gyhoeddiadau)
Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr