Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon (Hanes)
- Rhif y Swydd
- SU00841
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £55,755 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Ebr 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Ebr 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Angella Cooze a.c.cooze@swansea.ac.uk
- Prof Andrew Townsend Andrew.townsend@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Ers eu sefydlu yn 2019 mae'r rhaglenni TAR ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd o nerth i nerth. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r rhaglen uwchradd wedi cael arolygiad Estyn ac wedi'i hail-achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae’r ddau wedi ein cymeradwyo am gryfder ein rhaglenni'n gyffredinol, gyda chydnabyddiaeth benodol am ein gwaith ar les a chysylltu ymchwil ac ymarfer. Gan adeiladu ar lwyddiant ein cwrs TAR Uwchradd rydym am gyflwyno llwybr Hanes newydd ym mis Medi 2025. Byddwn yn gwneud penodiad 0.5 CALl i arwain y llwybr hwn. Gall hyn fod ar lefel Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd.
Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar yr un pryd â swydd gyfatebol i arwain ein cwrs TAR Uwchradd newydd mewn Daearyddiaeth. Ar gyfer yr ymgeisydd cywir byddem yn ystyried cyfuno'r rolau hyn h.y. fel 1.0 CALl mewn Dyniaethau. Nodwch os dyma yw eich dymuniad yn eich llythyr cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod o'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Mae hwn yn Adran fywiog a chydweithiol gydag ymrwymiad i gwblhau a lledaenu ymchwil ystyrlon. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o brifysgolion eraill yng Nghymru a thu hwnt, ac â rhannau eraill o'r sector. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hamgylchedd ymchwil i’r holl staff. Rhywbeth y cafodd ei ganmol gan dîm arolygu Estyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y llwybr TAR Uwchradd mewn Hanes. Bydd hefyd yn cyfrannu at raglenni eraill yn yr adran gan gynnwys yr MA Addysg (Cymru) ac o bosib raglenni israddedig neu Feistr eraill.
Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â phrofiad ac arbenigedd priodol, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl sydd â’r gallu i addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol o wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Yn y llythyr cais nodwch yn glir sut rydych yn bodloni disgwyliadau darlithydd neu uwch-ddarlithydd fel y bo'n briodol. Nodwch hefyd a hoffech gael eich ystyried am y swydd 0.5 mewn Daearyddiaeth i greu rôl 1.0 CALl mewn Dyniaethau. Os yw'r swydd amser llawn o ddiddordeb, nodwch sut byddwch yn bodloni'r gofynion ar gyfer addysgu'r ddau bwnc.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Uwch Ddarlithydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Darlithydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr