Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon - Ieithoedd Tramor Modern
- Rhif y Swydd
- SU00843
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £55,755 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Ebr 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Ebr 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Angella Cooze a.c.cooze@swansea.ac.uk
- Prof Andrew Townsend Andrew.townsend@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn penodi 0.5 Darlithydd neu Uwch Ddarlithydd.
Ers sefydlu’r TAR yn 2019, mae ei rhaglenni ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd o nerth i nerth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r rhaglen uwchradd wedi bod yn rhan o arolygiad Estyn ac wedi cael ei hail-achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Gwnaeth y ddau ohonynt ganmol cryfder ein rhaglenni yn gyffredinol, gan gydnabod yn benodol ein gwaith ar les a chysylltu ymchwil ac ymarfer. Rydym bellach yn penodi Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd ar sail 0.5 CALl i addysgu ar y llwybr Ieithoedd Modern Tramor.
Bydd y sawl a benodir yn aelod o'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Dyma adran fywiog a chydweithredol sy'n ymrwymedig i ymgymryd ag ymchwil ystyrlon a'i lledaenu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o brifysgolion eraill yng Nghymru a'r tu hwnt, ac â rhannau eraill o'r sector addysg. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hamgylchedd ymchwil i'r holl staff. Gwnaeth tîm arolygu Estyn hefyd ganmol ansawdd ein hamgylchedd ymchwil.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain llwybr Ieithoedd Modern Tramor y TAR Uwchradd. Bydd hefyd yn cyfrannu at raglenni eraill yn yr adran gan gynnwys yr MA Addysg (Cymru) a/neu raglenni israddedig neu raglenni meistr eraill.
Er ein bod ni'n croesawu ceisiadau gan bawb â'r profiad a'r wybodaeth sydd eu hangen i ymgymryd â'r rolau hyn, byddem yn croesawu ceisiadau'n enwedig gan yr ymgeiswyr hynny sy'n gallu addysgu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol o wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Yn y llythyr eglurhaol ar gyfer y cais hwn, dylech gadarnhau a ydych yn cyflwyno cais am y rôl ar lefel Darlithydd neu Uwch-ddarlithydd, gan ddangos sut rydych yn bodloni disgwyliadau'r lefel honno.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Darlithydd Lawrlwytho Disgrifiad Swydd - Uwch Ddarlithydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr